‘Sychder Lloegr yn dangos yr angen am gofeb Tryweryn’
Mae’r sychder yn Lloegr yr haf hwn yn dangos yr angen am gofeb parhaol i foddi Capel Celyn, yn ôl un o’r rheini sydd y tu cefn i’r ymgyrch.
Daw sylwadau'r cyn-AS Elfyn Llwyd wedi i ymgyrch newydd gael ei lansio i godi cofeb bron i 60 mlynedd ers boddi y pentref yng Ngwynedd i ddarparu dŵr ar gyfer trigolion ardal Lerpwl.
Dros 20 mlynedd yn ôl fe wnaeth yr artist John Meirion Morris ddylunio cofeb 30 troedfedd a fyddai yn sefyll ar lan Llyn Celyn.
Bu farw yn 2020 yn 84 oed a hyd yma nid yw’r targed ariannol a osodwyd ar gyfer codi’r gofeb wedi cyrraedd y nod.
Mae pwyllgor gwaith Cofiwn Dryweryn bellach wedi'i sefydlu er mwyn cael y maen i’w wal.
“Wrth gwrs mae’n dod i’r amlwg rŵan oherwydd bod prinder dŵr drws nesa’ i ni yn Lloegr,” meddai cadeirydd y pwyllgor, Elfyn Llwyd wrth Radio Cymru.
“Mae’n rhaid i ni sicrhau na wneith y syniadau ofnadwy yma ddim datblygu eto. Mae’n bwysig ein bod ni’n aros ar ein gwyliadwriaeth.
“Ond hefyd, mae hanes y stori yn ddiddorol iawn i unrhyw un sydd eisiau darllen hanes Cymru.
“Mae’n bwysig ein bod ni’n gwneud yn fawr ohona fo er mwyn addysgu'r genhedlaeth bresennol a’r genhedlaeth i ddod.
“Ein breuddwyd ni yw cael plant ysgol, myfyrwyr a phobl o bob rhan o’r byd i alw heibio i ymweld a chael hanes cywir yr hyn ddigwyddodd.”
‘Ardderchog’
Byddai'r cynllun hefyd yn golygu ail-ddatblygu Capel, cynnwys fideos o hanes boddi’r cwm, ac amffitheatr, meddai.
“Fe gychwynnwyd yr ymgyrch i godi’r arian tua 20 mlynedd yn ôl bellach ac yn anffodus ddaeth hwnnw ddim i’r fei,” meddai’r cyn Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Feirionnydd Nant Conwy a Dwyfor Meirionnydd.
“Yn garedig iawn mae’r pwyllgor hwnnw wedi trosglwyddo'r arian oedd ganddyn nhw i ni er mwyn cychwyn ar y broses o godi arian ar gyfer y cerflun ardderchog yma yn ôl breuddwyd y diweddar, annwyl John Meirion Morris.
“Mae’r slogan Cofiwch Dryweryn yn fyd-enwog bellach - mae’n ymddangos ar waliau yn Chicago o bob man.
“Ond mae’n bwysig bod y cefndir i gyd yn dod i’r amlwg er mwyn i bobl gael gwybod yn iawn beth ddigwyddodd.”