Pump o bobl ag anafiadau wedi gwrthdrawiad mewn coedwig

Llun: Google
Coedwig Abercynon

Mae pump o bobl wedi eu hanafu ar ôl gwrthdrawiad ar ffordd mewn coedwig yn ardal Abercynon, Rhondda Cynon Taf.

Mae gan rai ohonyn nhw anafiadau sydd yn newid bywyd, yn ôl Heddlu De Cymru. 

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r gwrthdrawiad rhwng beic cwad, a beic sy'n addas i'w yrru oddi ar y ffordd fawr, am 17:15 nos Lun.

Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru bod tri ambiwlans wedi cael eu galw yno. 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.