Y Gŵyl Banc Awst cynhesaf erioed yng Nghymru
Mae'r tymheredd uchaf erioed wedi ei gofnodi yng Nghymru ar ddydd Llun Gŵyl y Banc, ar ôl i'r tymheredd gyrraedd 29.1C ym Mhenarlâg, Sir y Fflint.
26.5C oedd y record flaenorol, a hynny nôl yn 1991.
Cafodd y record ei thorri yng Ngogledd Iwerddon hefyd, wrth i'r tymheredd godi i 24.5C yn Magilligan, Derry, yn ôl y Swyddfa Dywydd.
Ond mae'r tywydd braf wedi dod i ben am y tro, wrth i wyntoedd cryfion a glaw gyrraedd o'r gorllewin, yn sgil y cyn-Gorwynt Erin sydd wedi croesi'r Iwerydd o arfordir dwyreiniol yr Unol Daleithiau.
Mae disgwyl tywydd gwlyb am weddill yr wythnos.
Dywedodd Marco Petagna o'r Swyddfa Dywydd: “Hwn fydd y glaw cyntaf ers peth amser i sawl ardal
“Fe fydd hi'n parhau'n gyfnewidiol weddill yr wythnos, gyda chawodydd a chyfnodau hirach o law, gyda'r tymheredd yn gostwng i'r cyfartaledd yr adeg hon o'r flwyddyn, a bydd hi'n go wyntog hefyd.”
Ond does dim disgwyl unrhyw rybuddion tywydd yr wythnos hon.