Plant ‘mewn perygl o foddi’ am fod pyllau nofio wedi cau
Mae cau pyllau nofio dros y degawd diwethaf wedi rhoi plant "mewn perygl o foddi" meddai un undeb.
Dywedodd undeb y GMB bod eu hymchwil yn cefnogi astudiaeth sydd yn dweud bod 500 pwll nofio wedi cau ar draws y DU dros y degawd diwethaf.
Mae nifer o gymunedau yng Nghymru wedi colli eu pyllau nofio oherwydd y gost o'u cynnal.
Yng Ngwynedd mae dau grŵp cymunedol wedi bod yn brwydro i achub pwll nofio sydd wedi cau yn Harlech.
Caeodd ei ddrysau ym mis Awst y llynedd yn sgil diffyg arian.
Ers hynny, mae trigolion y dref wedi dod at ei gilydd i geisio sicrhau nad yw'r safle'n cael ei werthu.
Mae dau grŵp bellach wedi cyflwyno cynlluniau busnes i drawsnewid yr adeilad – a hynny er budd y gymuned.
'Sgil sylfaenol'
Yn 2024, caeodd pwll nofio yng Ngheredigion yn sgil problemau ariannol “difrifol.”
Fe wnaeth Pwll a Neuadd Goffa Aberteifi gau ar ôl 40 mlynedd, a hynny oherwydd heriau wrth fynd i’r afael â “chostau ynni uwch a lefelau incwm is,” yn ogystal â’r “costau sylweddol” wrth gynnal a chadw’r safle, meddai’r ymddiriedolwyr.
Wrth gyfeirio at yr ymchwil diweddaraf, dywedodd swyddog cenedlaethol y GMB, Kevin Bandstatter: “Mae gorfodi awdurdodau lleol i gau cymaint o byllau nofio yn enghraifft frawychus o lymder.
“Mae dysgu nofio yn sgil bywyd sylfaenol, mae sblasio mewn pwll yn llawenydd plentyndod sylfaenol – dau beth sydd bellach yn cael eu gwrthod o bosibl, i filoedd o bobl ifanc.
“O’i gymryd i’w eithafion, mae’n gadael pobl ifanc mewn perygl o foddi.”
Mae clymblaid sy'n cynnwys Cymdeithas Llywodraeth Leol, Cymdeithas Prif Swyddogion Diwylliannol a Hamdden, Cymdeithas Prif Weithredwyr ac Uwch Reolwyr Awdurdodau Lleol, ac Ukactive yn dweud bod angen buddsoddi cyllid mewn cyfleusterau y mae pobl yn dibynnu arnynt bob dydd i aros yn iach.
Mae eu hadroddiad yn dweud bod 30% o blant oedran blwyddyn 7 yn methu nofio 25 metr yn hyderus.
Mae hynny'n gynnydd o 3% ers 2018.
Rhybuddiodd y glymblaid hefyd fod 60% o byllau nofio y tu hwnt i'w hoes ddisgwyliedig neu angen eu hadnewyddu.