Seren Strictly wedi ei arestio ar amheuaeth o dreisio
Mae un o sêr y gyfres Strictly Come Dancing wedi ei arestio ar amheuaeth o dreisio.
Dyw enw'r dyn sydd yn ei 30au ddim wedi ei gyhoeddi.
Mae e hefyd yn cael ei holi am honiad arall yn gysylltiedig "â delwedd yn ymwneud â chysylltiad clòs."
Cafodd ei gludo i'r ddalfa ddydd Gwener wedi "honiad trydydd parti yn ymwneud â throseddau cyffuriau a rhyw" yn ôl Heddlu'r Met.
Mewn datganiad, cyhoeddodd yr heddlu: "Ddydd Gwener, 22 Awst cafodd dyn yn ei dridegau ei arestio yn nwyrain Llundain ar amheuaeth o dreisio
"Mae hwn yn ymchwiliad ar y cyd gyda Heddlu Sir Herford, a thra bod yr ymchwiliad yn y camau dechreuol, rydym yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â ni gan ddyfynnu 8479/22AUG."
Y gred yw nad yw'r achos yn ymwneud â chynhyrchiad presennol Strictly Come Dancing, gyda'r artistiaid hynny bellach wedi dechrau ymarfer ar gyfer y gyfres ddiweddaraf a fydd yn dychwelyd fis Medi.
Dywedodd llefarydd ar ran y BBC na fyddai'n briodol i wneud sylw am achos sy'n destun ymchwiliad yr heddlu.
Yn gynharach y mis hwn, roedd adroddiadau fod y gorfforaeth wedi cysylltu â chyfreithwyr, yn sgil honiadau fod dau o'u sêr wedi cymryd y cyffur cocên.
Roedd y rhaglen yn destun ymchwiliad gan y BBC yn 2024, wedi i'r actores Amanda Abbingdon honni iddi gael ei bwlio gan y cyn ddawnsiwr proffesiynol Giovanni Pernice, tra roedd y ddau yn cystadlu gyda'i gilydd ar Strictly.
Derbyniodd y gorfforaeth fod sail i nifer o'r cwynion, ond nid pob un, a chafodd cyfres o fesurau newydd eu cyflwyno er mwyn gwarchod lles y cystadleuwyr.
Roedd hynny'n cynnwys gwarchodwr (chaperone) a fyddai'n bresennol “o hyd” yn ystod ymarferion.