Hwb i Gymru wrth i Aaron Ramsey chwarae am y tro cyntaf ers pum mis

Llun: Reuters
Aaron Ramsey

Mae Aaron Ramsey wedi chwarae ei gêm gyntaf i dîm y Pumas ym Mecsico, y tro cyntaf iddo chwarae ers mis Mawrth.

Daeth Ramsey oddi ar y fainc wedi 62 munud yn gwisgo'r crys rhif 10 yn y gêm ddi-sgôr rhwng Pumas a Club Puebla yn stadiwm yr Estadio Olímpico Universitario, Dinas Mecisco.

Hwn oedd y tro cyntaf i'r chwaraewr canol cae 34 oed gamu i'r cae ers ei anaf tra'n chwarae i Gaerdydd yn erbyn Luton yn y Bencampwriaeth ar 11 Mawrth.

Arwyddodd y Cymro i'r clwb ddeufis yn ôl, wedi i'w gytundeb gyda Chaerdydd ddod i ben, gan ymuno â'r Pumas hanner ffordd drwy dymor y Liga MX.

Wrth iddo arwyddo i'r clwb, dywedodd Llywydd y Pumas, González Pérez y byddai Ramsey yn gallu dangos ei dalent ar y cae wrth iddyn nhw ymdrechu i gyrraedd y gemau ail-gyfle.

Nid yw Ramsey wedi chwarae dros Gymru ers mis Medi 2024.

Gyda phryderon na fydd Ethan Ampadu ar gael i chwarae yn erbyn Kazakhstan ar 4 Medi, fe allai Craig Bellamy droi at Ramsey i lenwi'r bwlch.

Mae Ramsey wedi ennill 86 o gapiau dros ei wlad.

Roedd cyfnod Ramsey gyda Chaerdydd yn llawn anafiadau, ac fe chwaraeodd 23 o gemau'n unig yn ystod dau dymor yno.

Er gwaethaf yr anafiadau a chyfnod byr fel rheolwr dros dro yr Adar Gleision, mae Ramsey wedi pwysleisio ei fod eisiau parhau â'i yrfa chwarae i geisio arwain Cymru yng Nghwpan y Byd yr haf nesaf.

Yn rowndiau rhagbrofol y bencampwriaeth honno, bydd Cymru yn wynebu Kazakhstan yn Astana ar 4 Medi, cyn wynebu Canada mewn gêm gyfeillgar yn Abertawe ar 9 Medi.

Mae Cymru yn ail yn eu grŵp ar hyn o bryd, gyda Gogledd Macedonia ar y brig a Gwlad Belg yn y trydydd safle.



 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.