Apêl wedi ail farwolaeth gyrrwr beic modur ger Wrecsam
Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am wybodaeth wedi i yrrwr beic modur 49 oed farw mewn gwrthdrawiad yn ardal Bwlchgwyn ger Wrecsam fore Sul.
Cafodd swyddogion eu galw i ffordd yr A525 ychydig wedi 10:00 y bore.
Roedd y dyn wedi marw yn y fan a'r lle.
Dyma'r ail yrrwr beic modur i farw yn ardal Bwlchgwyn mewn naw niwrnod, wedi gwrthdrawiad ar ffordd y B5430, ger yr A525, toc ar ôl 7.30pm, nos Wener 15 Awst.
Roedd grŵp o bedwar o feiciau modur a cherbyd Range Rover yn y gwrthdrawiad hwnnw.
Wrth apelio am wybodaeth am y gwrthdrawiad fore Sul, 24 Awst, dywedodd y Rhingyll Duncan Logan o'r Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol yr heddlu: "Rwy'n rhannu fy nghydymdeimlad dwysaf â theulu'r dyn yn ystod yr amser anodd hwn.
"Rwy'n apelio ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad i gysylltu â ni.
"Yn fwy na hynny, rwy'n apelio ar unrhyw un sydd â lluniau camera dashcam o grŵp o 10 o feiciwyr modur yn teithio rhwng yr A483 yng Nghoedpoeth a'r A525 ym Mwlchgwyn cyn y gwrthdrawiad i gysylltu â'r heddlu.
"Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai gynorthwyo ein hymchwiliadau gysylltu â ni drwy ein gwefan neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu'r cyfeirnod 25000701685."