Rhagolwg ar gemau Llun gŵyl y banc Cymru Premier JD
Caernarfon a Llansawel sy’n arwain y ffordd wedi’r tair gêm agoriadol yn nhymor y Cymru Premier JD, gyda’r Seintiau Newydd a Phen-y-bont yn dynn ar eu sodlau.
Mae hanner timau’r gynghrair yn dal i aros am eu buddugoliaeth gyntaf, ond Llanelli yw’r unig glwb sydd heb hawlio pwynt.
Un pwynt yn unig sydd gan glybiau Cei Connah a’r Fflint tua’r gwaelodion cyn darbi fawr Sir y Fflint brynhawn Llun.
Hwn fydd y tymor olaf dan y drefn bresennol o gael 12 tîm yn y gynghrair, cyn i nifer yr aelodau gynyddu i 16 o glybiau ar gyfer tymor 2026/27. Mae hynny’n golygu y bydd chwech o glybiau yn esgyn o’r ail haen ar ddiwedd y tymor hwn, a’r ddau isaf yn syrthio o’r uwch gynghrair.
Bydd pedwar safle ar gael yn Ewrop ar ddiwedd y tymor hwn, cyn i’r niferoedd syrthio yn ôl i lawr i dri ar gyfer y flwyddyn ganlynol.
Bae Colwyn (8fed) v Y Seintiau Newydd (3ydd) | Dydd Llun – 14:30
Dim ond dau bwynt sydd gan Fae Colwyn o’u tair gêm agoriadol, a dyw pethau’n dod dim haws i’r Gwylanod wrth iddyn nhw groesawu’r pencampwyr i Sir Conwy ar ddydd Llun Gŵyl y Banc.
Wedi cyfnod ychydig yn sigledig yn dilyn y gemau Ewropeaidd, mae’r seiliau’n gadarn unwaith yn rhagor yng Nghroesoswallt wedi i’r Seintiau guro Cei Connah a Phen-y-bont yn eu dwy gêm ddiwethaf.
Bydd hi’n achlysur arbennig i Michael Wilde ddydd Llun wrth i reolwr Bae Colwyn groesawu ei gyn-glwb, Y Seintiau Newydd i Ffordd Llanelian.
Enillodd Wilde 15 o dlysau yn ystod ei gyfnod fel blaenwr gyda’r Seintiau Newydd, a’r gŵr o Benbedw sydd yn ail ar restr prif sgorwyr holl hanes y clwb gyda 153 o goliau mewn 290 o gemau yn yr uwch gynghrair.
Ond bydd hi’n dasg anferthol i’r Gwylanod sydd wedi colli eu pedair gêm flaenorol yn erbyn Y Seintiau Newydd, yn cynnwys colled o 4-1 yn Neuadd y Parc y tymor diwethaf ym mhedwaredd rownd Cwpan Cymru JD.
Record cynghrair diweddar:
Bae Colwyn: ͏➖➖❌
Y Seintiau Newydd: ❌✅✅
Caernarfon (1af) v Y Bala (6ed) | Dydd Llun – 14:30
Mae Caernarfon wedi cael dechrau campus i’r tymor gan sgorio 11 o goliau yn eu dwy gêm ddiwethaf gan drechu Llanelli (6-1) a’r Fflint (2-5).
Sgoriodd y Caneris sawl gôl gofiadwy ar Gae y Castell nos Wener, ac mae’r hyder yn llifo yng ngwythiennau’r Cofis, sydd â charfan beryglus y tymor hwn.
Er i rai amau y byddai’r Bala’n stryffaglu eleni wedi ymadawiad Colin Caton, mae Hogiau’r Llyn yn un o bedwar clwb sydd heb golli gêm hyd yma.
Ond dyw’r Cofis ddim wedi colli yr un o’u hwyth gêm flaenorol yn erbyn Y Bala (ennill 3, cyfartal 5) yn cynnwys buddugoliaeth gampus o 5-0 ar yr Oval ym mis Mawrth lle sgoriodd Louis Lloyd hatric i’r Caneris.
Record cynghrair diweddar:
Caernarfon: ͏➖✅✅
Y Bala: ➖✅
Llansawel (2il) v Hwlffordd (9fed) | Dydd Llun – 14:30
Nid llawer fyddai wedi darogan dechrau da Llansawel eleni, gyda’r Cochion yn hafal ar bwyntiau ar frig y tabl.
Dangosodd dynion Andy Dyer eu cymeriad nos Wener wrth frwydro ‘nôl o fod 2-0 ar ei hôl hi yn erbyn Llanelli, gan ennill 2-4 yn y pen draw ar Barc Stebonheath, gyda’r blaenwr ifanc Ruben Davies yn rhwydo am y bedwaredd gêm yn olynol ym mhob cystadleuaeth.
Bydd Hwlffordd yn hynod siomedig o fod wedi gorfod rhannu’r pwyntiau gyda Met Caerdydd nos Wener wedi i’r Adar Gleision fynd ar y blaen o 2-0 yn yr 20 munud agoriadol, ac felly mae tîm Tony Pennock yn dal i aros am eu triphwynt cyntaf y tymor hwn.
Enillodd Hwlffordd eu dwy gêm yn erbyn Llansawel y tymor diwethaf yn cynnwys buddugoliaeth gyfforddus o 5-1 gartref ar Ddôl y Bont ym mis Ionawr.
Mae degawd wedi mynd heibio ers i Lansawel ennill gêm gartref yn erbyn Hwlffordd gyda’r Adar Gleision yn ennill eu pedair gêm ar yr Hen Heol ers hynny.
Record cynghrair diweddar:
Llansawel: ͏✅➖✅
Hwlffordd: ❌➖
Met Caerdydd (7fed) v Y Barri (5ed) | Dydd Llun – 14:30
Bydd Ryan Jenkins yn ddigon bodlon gyda’r dair gêm gyfartal y mae Met Caerdydd wedi eu cael hyd yn hyn, ond bydd yn sicr yn awyddus i hawlio’r fuddugoliaeth gyntaf yn ddigon buan.
Bydd hogiau’r Barri’n benwan ar ôl ildio wedi 94 munud i golli’r gêm yn erbyn Pen-y-bont nos Wener gan lithro oddi ar gopa’r gynghrair.
Sgoriodd Ryan Reynolds yn y ddwy gêm yn erbyn Y Barri’r tymor diwethaf, ond y Dreigiau gafodd y gorau o bethau ar draws yr ymgyrch gyfan gan ennill 2-1 gartref ar ôl cael gêm gyfartal 1-1 ar Gampws Cyncoed ym mis Awst.
Er hynny, dyw Met Caerdydd heb golli dim un o’u chwe gêm gartref ddiwethaf yn erbyn Y Barri (ennill 4, cyfartal 2).
Record cynghrair diweddar:
Met Caerdydd: ͏➖➖➖
Y Barri: ✅➖❌
Pen-y-bont (4ydd) v Llanelli (12fed) | Dydd Llun – 14:30
Ar ôl methu dwy gêm gynta’r tymor oherwydd gwaharddiad, fe wnaeth Noah Daley dipyn o argraff yn ei ymddangosiad cyntaf i Ben-y-bont yn y gynghrair nos Wener, gan daro hatric arbennig i drechu’r Barri.
Roedd yn driphwynt hollbwysig i dîm Rhys Griffiths i’w cadw o fewn pwynt i’r ceffylau blaen, Caernarfon a Llansawel.
Mae’n stori dra gwahanol yn Llanelli gan fod hogiau Lee John yn parhau i aros am eu pwynt cyntaf ers eu dyrchafiad dros yr haf.
Dyw Llanelli erioed wedi colli yn erbyn Pen-y-bont o’r blaen, gyda’r Cochion yn ennill pob un o’r tair gêm flaenorol rhwng y clybiau, yn cynnwys buddugoliaeth ar giciau o’r smotyn ar Barc Stebonheath ym mis Tachwedd 2023 yn nhrydedd rownd Cwpan Cymru JD.
Record cynghrair diweddar:
Pen-y-bont: ͏✅❌✅
Llanelli: ❌❌❌
Cei Connah (11eg) v Y Fflint (10fed) | Dydd Llun – 17:15 (Yn fyw arlein)
Oherwydd y problemau diweddar gyda’r pibelli dŵr yn Sir y Fflint, dim ond dwy gêm y mae Cei Connah a’r Fflint wedi ei chwarae hyd yma, a phwynt yr un sydd gan y ddau glwb.
Cafodd Cei Connah eu curo’n gyfforddus o 3-0 gan y Seintiau nos Wener, tra roedd hi’n glawio goliau godidog ar Gae y Castell wrth i’r Fflint ildio pump yn erbyn Caernarfon, ar ôl rhwydo dwy gôl o safon eu hunain (Ffl 2-5 Cfon).
Er i Cei Connah ennill tair o’r pedair ornest rhwng y timau’r tymor diwethaf, fe orffennodd y ddau glwb yn gyfartal ar bwyntiau yn yr 8fed a’r 9fed safle.
Llwyddodd seren y Nomadiaid, Rhys Hughes i sgorio pump o goliau cynghrair yn erbyn Y Fflint y tymor diwethaf, gyda dwy ohonyn nhw yn ennill gwobr Gôl y Mis.
Record cynghrair diweddar:
Cei Connah: ➖❌
Y Fflint: ➖❌
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a’r gorau o gyffro’r penwythnos ar S4C nos Lun.