Gŵyl y Banc Awst poethaf Cymru ar gofnod?

tywydd Poeth (llun Dai Lygad)

Fe fydd hi'n ddiwedd poeth i benwythnos Gŵyl y Banc yn ôl y rhagolygon tywydd diweddaraf. 

Hyd yn hyn, y tymheredd uchaf yng Nghymru ar gyfer penwythnos Gŵyl y Banc ym mis Awst ydy 26.5C yn Sir Fynwy, ond fe all rhannau o ddwyrain Cymru brofi tymheredd o 27C ddydd Llun. 

Daw hyn wedi i'r Swyddfa Dywydd ddweud yr wythnos diwethaf, er nad yw'r haf drosodd eto, mae'n debygol mai dyma'r haf poethaf erioed ar gofnod. 

Ond mae disgwyl i gorwynt oddi ar arfordir America ddod â’r haf i ben yng Nghymru gyda gwynt a glaw erbyn canol yr wythnos.

Fe fydd yn golygu bod yr haf yn gorffen gyda thywydd cyfnewidiol ar ôl cyfnod o dywydd clir a phoeth.

Ar hyn o bryd mae Erin yn gorwynt categori dau oddi ar arfordir talaith North Carolina.

Ond mae disgwyl iddo droelli i gyfeiriad Ewrop a chyrraedd yma erbyn canol yr wythnos.

Ni fydd yn gorwynt erbyn hynny, meddai meteorolegydd y Swyddfa Dywydd, Tom Morgan.

 “Mae’n rhy gynnar i roi manylion penodol ynghylch pa rannau o’r wlad fydd yn gweld y tywydd mwyaf gwyntog a gwlypaf,” meddai.

“Yr hyn y gallwn ei ddweud yw y bydd yn raddol yn llai poeth ac yn fwy cyfnewidiol yn gyffredinol.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.