Gwaharddiad tafarndai a theithio posib o dan newidiadau i reolau dedfrydu

Carchar

Gallai pobl sydd wedi eu canfod yn euog o droseddau yng Nghymru a Lloegr wynebu gwaharddiad o dafarndai, cyngherddau a gemau chwaraeon.

Daw hyn o dan newidiadau posib i reolau dedfrydu sy'n cael eu hystyried gan y llywodraeth.

Byddai'r newidiadau yn galluogi llysoedd sy'n cyflwyno amodau di-garchar i gael y pŵer hefyd i roi gwaharddiadau gyrru a theithio, yn ogystal â gorchymyn i droseddwyr aros mewn ardaloedd penodol.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyfiawnder Shabana Mahmood fod yn rhaid i droseddwyr "gael eu cosbi" a'u "rhyddid wedi ei gyfyngu" mewn cymdeithas os ydyn nhw'n wynebu dedfrydau cymunedol.

Fe wnaeth adolygiad diweddar o bolisïau dedfrydu argymell llai o ddedfrydau yn y carchar am droseddau llai difrifol fel ffordd i fynd i'r afael â'r gorlenwi mewn carchardai.

Gall llysoedd ar hyn o bryd roi gwaharddiadau cyfyngedig ar bobl sydd wedi'u cael yn euog o droseddau penodol, er enghraifft, gall rhywun sydd wedi ei gael yn euog o drais mewn gêm bêl-droed gael ei wahardd o bob stadiwm.

Ond mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn dweud eu bod yn bwriadu cyflwyno deddfwriaeth i ganiatáu rhagor o gyfyngiadau i gael eu cyflwyno gan farnwyr ac ynadon, fel "ffordd o gosbi ar gyfer unrhyw drosedd o dan unrhyw amgylchiadau".

Mae'n golygu y gallai troseddwyr wynebu cosbau ychwanegol sydd ddim yn gysylltiedig â'r drosedd.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.