Coca-Cola yn edrych i werthu cwmni Costa Coffee
Mae'r cwmni byd-eang Coca-Cola yn paratoi i werthu un o gadwyni coffi stryd fawr mwyaf y DU dros chwe blynedd ar ôl prynu'r busnes gyda'r bwriad i leihau dibyniaeth y cwmni rhyngwladol ar ddiodydd meddal llawn siwgr.
Yn ôl adroddiadau fore Sadwrn, y gred yw fod Coca-Cola yn gweithio gyda bancwyr i gynnal trafodaethau cychwynnol gyda'r bwriad o werthu Costa Coffee.
Mae trafodaethau cychwynnol eisoes wedi'u cynnal gyda nifer fach o gynigwyr posibl, gan gynnwys cwmnïau ecwiti preifat, yn ôl ffynonellau yn y Ddinas yn Llundain.
Y gred yw bod y banc buddsoddi, Lazard, wedi cael eu rhoi ar waith gan Coca-Cola i adolygu opsiynau ar gyfer y busnes ac i fesur diddordeb gan brynwyr posibl.
Mae'r un ffynhonnell wedi rhybuddio y gallai Coca-Cola benderfynu peidio â bwrw ymlaen â gwerthiant, unwaith bydd asesiadau wedi eu cwblhau.
Mae Costa yn masnachu o fwy na 2,000 o siopau yn y DU, ac ymhell dros 3,000 yn fyd-eang, yn ôl y ffigurau diweddaraf sydd ar gael.
.