Carcharu ‘bwli treisgar’ wnaeth daro tri swyddog heddlu â’i ben

Nathan Phillips

Mae dyn wedi cael ei garcharu ar ôl iddo daro tri o swyddogion yr heddlu â’i ben.

Roedd angen i un o’r swyddogion gael sgan MRI ar ôl cael ei tharo gan Nathan Phillips yn ystod y digwyddiad ym Merthyr Tudful yn gynharach y mis hwn.

Fe wnaeth yr un peth i swyddog arall yn ystod yr un digwyddiad, ac wedyn eto i drydydd swyddog yng ngorsaf heddlu'r dref yn ddiweddarach.

Fe gafodd Phillips, sy'n 37 oed, ddedfryd o garchar am droseddau amrywiol yr wythnos hon.

Fe ddigwyddodd ei ymosodiadau ar ôl i’r heddlu gael gwybod am ddyn meddw ac ymosodol a oedd yn gwrthod gadael siop nos Wener, 8 Awst. 

Ar ôl tywys yr unigolyn dan amheuaeth o'r safle, parhaodd i weiddi, rhegi ac amharu ar eraill, a chafodd ei arestio am drosedd trefn gyhoeddus. 

Yn ystod yr arestiad hwnnw, tarodd Phillips ddau swyddog â'i ben; yn ddiweddarach, wrth i swyddogion geisio addasu ei efynnau yng ngorsaf yr heddlu, tarodd swyddog arall â'i ben. 

Wedi iddo gael ei ddedfrydu, dywedodd y Prif Uwch-arolygydd Steve Jones: “Mae'n bwysig nodi na ddangosodd Phillips unrhyw edifeirwch ac nad oedd yn bosibl ymresymu ag ef. 

“Roedd dau o'r swyddogion yr ymosododd arnynt yn swyddogion benywaidd, ac ni ddangosodd unrhyw ystyriaeth i hynny. 

“Mae'r digwyddiad hwn yn dangos nad oedd ganddo unrhyw foesau, a'i fod yn ddim mwy na bwli treisgar a meddw.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.