Seren drag o'r Cymoedd i gystadlu yng nghyfres newydd RuPaul's Drag Race
Fe fydd seren drag o'r Cymoedd yn cystadlu yng nghyfres newydd RuPaul's Drag Race UK.
Eleni fe fydd Catrin Feelings o'r Rhondda yn cystadlu yn y gyfres sydd yn cael ei darlledu ar y BBC.
Ellis Lloyd Jones sydd tu ôl y cymeriad ac yn dweud bod ei waith drag wedi selio ar "drag Cymreig traddodiadol."
Mewn fideo ar gyfrif Instagram Catrin Feelings, dywedodd yn y Gymraeg: "Dechreuwch eich injans," sydd yn gyfieithiad o un o linellau mwyaf eiconig y gyfres, 'Ladies and Gentlemen, start your engines'.
Dywedodd Ellis: "Fi yn cwrdd â RuPaul, pwy fyddai'n dyfalu?
"Dwi eisiau bod mor enwog â Tom Jones, mae gen i'r ysgwyddau a'r acen yn barod.
"Dwi wedi bod yn gwneud drag ers pedair blynedd bellach, ac mae fy drag wedi ei ysbrydoli gan drag Cymreig traddodiadol.
"Dw i'n meddwl ei bod hi'n bryd cael mwy o 'campness' Cymreig yn y sioe!
"Wrth dyfu i fyny yn y Rhondda, roedd hi braidd yn ddu a gwyn.
"Pe baech chi'n wahanol, byddai pobl yn sicrhau eu bod nhw'n gwybod eich bod chi'n wahanol.
"Cofiwch, allwch chi fy nychmygu i'n trotian i lawr y stryd wedi gwisgo fel hyn?"
'Enill y goron'
Dyma seithfed gyfres RuPaul's Drag Race UK.
Yn y gorffennol mae'r artistiaid drag o Gymru Victoria Scone, Tayce, Actavia, a Marmalade a'r diweddar The Vivienne wedi cystadlu yn y gyfres.
Enillodd The Vivienne o Fae Colwyn cyfres gyntaf RuPaul's Drag Race UK, ac mae Catrin Feelings yn awyddus i gyflawni'r gamp honno hefyd.
"Rydw i moyn dangos pa mor bell y gall gwaith caled fynd â chi," meddai.
"Gadewais fy swydd i ddod yn frenhines drag amser llawn, dyna pa mor ddifrifol ydw i. Mae drag yn bopeth i mi. Rwy'n caru pob rhan o hyn."