Carcharu treisiwr a geisiodd honni bod y dioddefwr wedi breuddwydio yr ymosodiad
Rhybudd: Gall manylion yr erthygl hon beri gofid i rai.
Mae dyn a wnaeth dreisio menyw ac wedyn ceisio honni ei bod wedi breuddwydio ei ymosodiad wedi cael ei garcharu.
Cafodd Justin Saliba, 50 oed o Lanisien yng Nghaerdydd, ei garcharu am 11 o flynyddoedd yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun.
Fe ymosododd Saliba ar ei ddioddefwr wrth iddi gysgu yn ei fflat yn 2021.
Deffrodd y dioddefwr, nad oes modd ei henwi, i sylweddoli ei fod yn ei threisio a llwyddodd i ffoi ar ôl yr ymosodiad.
Dywedodd wrth ei theulu ac fe wnaethon nhw gysylltu â Heddlu De Cymru.
Cafodd Saliba ei arestio a'i gyhuddo o drais a cham-drin rhywiol, ond plediodd yn ddieuog, gan honni bod y dioddefwr wedi drysu rhwng breuddwyd â realiti.
Ond nid oedd y rheithgor yn ei gredu ac fe gafodd ei ganfod yn euog a'i gadw yn y ddalfa yn dilyn treial.
Cafodd Saliba ei garcharu am 11 o flynyddoedd a bydd yn treulio o leiaf ddwy ran o dair o'r ddedfryd dan glo cyn iddo gael ei ryddhau ar drwydded.
Bydd hefyd yn droseddwr rhyw cofrestredig am weddill ei oes.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Charlotte Watkins: “Fe wwnaeth gweithredoedd Justin Saliba y noson honno niwed anadferadwy i'w ddioddefwr.
“Gwadodd y drosedd ac wrth wneud hynny mae wedi gorfodi i'w ddioddefwr fynd drwy drawma treial ac wedi gorfodi iddi aros blynyddoedd am gyfiawnder.
“Mae'n rheibiwr peryglus a nawr bydd yn y carchar am nifer o flynyddoedd, lle na fydd yn fygythiad i eraill.
“Rwy'n gobeithio y bydd ei ddioddefwr yn cael rhywfaint o gysur yn gwybod hynny ac y gall ddechrau'r broses anodd o ailadeiladu ei bywyd.”