Galw am 'setliad ariannol teg' wrth i fwy o arian cynghorau fynd at wasanaethau cymdeithasol
Galw am 'setliad ariannol teg' wrth i fwy o arian cynghorau fynd at wasanaethau cymdeithasol
Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru'n galw am "setliad ariannol cynaliadwy a theg" a hynny wrth iddi ddod i'r amlwg fod mwy a mwy o arian y cynghorau yn mynd at wasanaethau cymdeithasol a bod llai i'w wario ar ffyrdd, llyfrgelloedd a thai.
Ac mae'r corff sy'n arolygu gwariant cyhoeddus, Swyddfa Archwilio Cymru, yn rhybuddio y gallai'r sector llywodraeth leol fod yn "anghynaladwy yn y tymor hir".
Eto mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod y cynghorau lleol wedi cael dros chwe biliwn o bunnoedd eleni.
Dros gyfnod o bymtheng mlynedd, mae 'na newid amlwg wedi bod yn y ffordd y mae'r Cynghorau'n gwario eu harian, a hynny'n destun ymchwiliad gan Archwilio Cymru ddiwedd y llynedd. Fe edrychon nhw ar y newid yn y gwariant dros gyfnod o bymtheng mlynedd, o 2008-9 hyd at 2023-24.
Dros y cyfnod hwnnw roedd gwariant ar wasanaethau gofal plant a theulu wedi codi 94%, gyda chynnydd tebyg (92%) ar amddiffyn rhag llifogydd a 31% yn fwy yn cael ei wario ar ofal cymdeithasol pobol hŷn.
I'r gwrthwyneb, mae 'na ostyngiad wedi bod yn yr hyn sy'n cael ei wario ar lyfrgelloedd (41%), ffyrdd a phriffyrdd (37%) a thai (21%) ar ôl ystyried effaith chwyddiant.
Ategu hynny mae arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, y Cynghorydd Darren Price, sydd hefyd yn llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
"Ni 'di gweld cynnydd mawr yn y gwariant yn nhermau gofal cymdeithasol i blant ac oedolion," meddai.
"Mae 'na bwysau mawr hefyd o ran addysg ac anghenion ychwanegol a chwymp mawr yn y gwariant ar briffyrdd, ar bethau diwylliannol, llyfrgelloedd, tai, felly mae gwahanol stori'n perthyn i wahanol adrannau."
'Costau cynyddol'
Mae'r rheini wnaeth yr ymchwil yn rhybuddio gall hi ddim parhau fel hyn.
"Mae 'na risg bod y sector llywodraeth leol yng Nghymru yn anghynaladwy yn ariannol yn y tymor canolig a'r tymor hir oni bai bod y cynghorau a'u partneriaid yn cymryd camau sylweddol i fynd i'r afael a'r sefyllfa," meddai Euros Lake, rheolwr archwilio yn Archwilio Cymru.
"Mae gynnoch chi betha fath â chwyddiant, cyfraddau llog, rheini'n arwain at gostau cynyddol o ran nwyddau, gwasanaethau benthyca hefyd.
"Mae hynny'n effeithio'n uniongyrchol ar gyllidebau cynghorau, yn yr un modd mae prisiau ynni dros y blynyddoedd diwetha wedi cynyddu, costau cynnal adeiladau a rhedeg gwasanaethau cyhoeddus."
Yn ôl Dr Marlene Davies, cyn-bennaeth cyfrifeg ym Mhrifysgol De Cymru, mae peryg y bydd gwasanaethau cymdeithasol yn llyncu mwy a mwy o arian.
"Mwy na thebyg byddan nhw," meddai.
"Y peth yw mae costau byw wedi codi, mae pobl yn gweld trafferthion yn talu rhent, talu morgais, mae hwnna'n golygu ambell waith bod rhaid mynd o'u cartrefi, maen nhw'n gorfod byw mewn gwestai, ac mae hwnna'n effeithio ar blant ac mae mwy o blant yn gorfod cael mwy o ofal.
"Mae'r henoed yn cael mwy o ofal yn eu cartrefi, er maen nhw'n gorfod cyfrannu at hynny."
'Toriadau neu gynyddu treth'
Ond oes angen i gynghorau edrych ar y ffordd y maen nhw'n gweithredu a newid ambell i beth, o ystyried y rhybudd gan Swyddfa Archwilio Cymru fod angen cymryd camau i fynd i'r afael a'r sefyllfa?
"Mae hynny 'di bod yn digwydd yn barhaol dros y 15 mlynedd diwetha," ydy ateb y Cynghorydd Darren Price.
"Dwi 'di bod yn gynghorydd sir ers dros 20 mlynedd ac mae'r rhan fwyaf o'r blynyddoedd yna'n golygu tocio ar wariant, edrych ar systemau mewnol, lleihau staff, defnyddio technoleg newydd.
"Mae'n digwydd yn barhaol, yma yn Sir Gaerfyrddin 'dan ni'n cymryd miliynau o bunnau bob blwyddyn mas o'r system just drwy drio gweithio'n fwy effeithiol, ond mae'n cyrraedd pwynt nawr mae rhaid torri gwasanaethau neu gynyddu treth y cyngor yn fwy nag y bydden ni moyn."
Ychwanegodd: "Ni mor ddibynnol ar yr arian sy'n dod o Lywodraeth Caerdydd a Llywodraeth San Steffan a dyna pam mae hi mor bwysig fod 'na setliad cynaliadwy a theg i gynghorau sir ar draws Cymru."
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod y cynghorau lleol wedi cael dros £6bn o'r setliad ariannol eleni, yn ogystal â £1bn mewn grantiau penodol ychwanegol. Maen nhw'n dweud bod hynny'n gynnydd o dros £253m o'i gymharu â'r flwyddyn gynt.
Fe fydd 'na gyllideb ddrafft yn yr Hydref o ran arian y flwyddyn nesaf.