
‘Wedi colli shwt gymaint’: Pryder dioddefwr strôc am israddio gwasanaethau yn Aberystwyth
“Beth sydd rhwng y gogledd a’r de - dim ond Bronglais... ni ‘di colli siwt gymaint yn barod - beth fydd nesaf?”
Mae menyw sydd wedi goroesi strôc yn pryderu am gynlluniau posib i israddio gwasanaethau arbenigol yn Aberystwyth.
Yr wythnos hon fe wnaeth cynghorwyr alw ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd mewn ymgynghoriad i newid gwasanaethau iechyd yng ngorllewin Cymru.
Ers mis Mai, mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi bod yn ymgynghori am ddyfodol gwasanaethau iechyd ar draws Ceredigion, Sir Gâr a Sir Benfro - ymgynghoriad a fydd yn cau ddiwedd yr wythnos nesa'.
Un o’r opsiynau sydd dan sylw yw newid y ddarpariaeth strôc yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth i wasanaeth trîn a throsglwyddo.
Ond dywedodd un fenyw sydd wedi defnyddio uned Aberystwyth, Ruth Davies, ei bod yn pryderu am y cynlluniau.
Os yw uned Aberystwyth yn newid fe fyddai yn golygu y byddai cleifion yn cael asesiad ym Mronglais a chael triniaeth gychwynnol cyn cael eu cludo i ysbytai Tywysog Philip, Llanelli neu Lwynhelyg, Hwlffordd i dderbyn gofal arbenigol.
“Chi’n meddwl, beth sy’n digwydd os gaf i un arall?” gofyna Ruth Davies o Waun Fawr, a dderbyniodd driniaeth yn yr uned yn Ysbyty Bronglais ar ôl iddi ddioddef strôc yn 2020.
Fe fu yn yr ysbyty am wythnos yn derbyn profion cyn iddi gael ei symud i Ysbyty Treforys.
Yma, derbyniodd lawdriniaeth ar ei rhydweli carotid (carotic artery). Roedd un ohonyn nhw wedi eu rhwystro a dyma a achosodd y strôc.
Wrth siarad â Newyddion S4C, diolchodd am y gofal a ddderbyniodd gan Uned Strôc Bronglais gan ddweud “heblaw nhw, bydden i ddim ‘ma”.
Pan yn siarad am ei chyflwr union bum mlynedd yn ôl, dywedodd “o'n nhw [y doctoriaid] ddim yn addo bysen i allan o’r theatr”.
Mae Ms Davies yn pryderu am ymarferoldeb y cynlluniau arfaethedig gan holi “os ambiwlans yn mynd i fod ar gael i drosglwyddo cleifion, lle mae’r cleifion yn mynd i aros cyn symud?”
Dywedodd ei bod hi eisiau gweld “triniaeth iawn yn y lle iawn”.
Ychwanegodd fod “pawb yn cytuno i gadw fe [Uned Strôc Bronglais] achos does neb yn gwybod pwy geith strôc nesaf”.

Galw ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd
Yn ôl Cynghorydd Cyngor Sir Ceredigion, Alun Williams sydd â phortffolio dros Gydol Oes a Llesiant, mae’r cynlluniau posib ar gyfer uned strôc Ysbyty Bronglais yn “siomedig”.
Dywedodd fod yr “ysbyty [Bronglais] yn gwasanaethu ardal ddaearyddol enfawr”.
“Mae map byrddau iechyd Cymru yn rhoi anfantais i Fronglais," meddai. "Petai map byrddau iechyd Cymru’n wahanol, efallai byddai’r penderfyniadau yn wahanol.”
Wrth siarad â Newyddion S4C dywedodd fod yr ysbyty yn bwysig i “ddau draean o boblogaeth Cymru gan fod yr ysbyty yn gwasanaethu cleifion ar draws byrddau iechyd Hywel Dda, Powys a Betsi Cadwaladr”.
“Fel rheolwr strategol iechyd yng Nghymru, dylai’r Llywodraeth gamu fewn a pheidio gadael y penderfyniad i fyrddau iechyd.”
Y gwasanaethau sy'n rhan o ymgynghoriad y Bwrdd Iechyd, yn ogystal â strôc, yw: gofal critigol, dermatoleg, llawdriniaeth gyffredinol frys, endosgopi, offthalmoleg, orthopaedeg, radioleg ac wroleg.
Nid oes unrhyw newidiadau i sut mae pobl yn cael mynediad at ofal brys neu ofal am fân anafiadau.
Ymateb
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai’r “byrddau iechyd lleol sy’n gyfrifol am gynllunio a darparu gwasanaethau iechyd i'w poblogaeth leol”.
Ychwanegodd fod yr Ysgrifennydd Iechyd yn disgwyl bod byrddau iechyd yn “darparu gwasanaethau diogel a chynaliadwy sy'n diwallu anghenion eu poblogaeth”.
“Mae’r ymgynghoriad yn dal ar y gweill, a byddai'n amhriodol gwneud sylwadau pellach.”
Ymysg y newidiadau eraill i Ysbyty Bronglais mae un opsiwn i waredu gofal offthalmoleg (llygaid) o unig ysbyty’r sir, Bronglais, i Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin.