Yr actor Noel Clarke yn colli achos enllib yn erbyn y Guardian

Noel Clarke

Mae'r actor Noel Clarke wedi colli ei achos enllib yn yr Uchel Lys yn erbyn cyhoeddwr y Guardian am adroddiadau ar honiadau o gamymddwyn.

Aeth Clarke, 49 oed, â Guardian News and Media (GNM) i'r llys oherwydd saith erthygl a phodlediad, gan gynnwys erthygl ym mis Ebrill 2021 a ddywedodd fod 20 o fenywod a oedd yn ei adnabod yn broffesiynol wedi gwneud honiadau o gamymddwyn, gan gynnwys bwlio, aflonyddu ac ymddygiad rhywiol amhriodol.

Mae’r actor Doctor Who, sydd hefyd yn adnabyddus am ysgrifennu, cynhyrchu ac ymddangos yn yr Hood Trilogy, yn gwadu'r honiadau, tra bod GNM wedi amddiffyn eu hadroddiadau fel rhai gwir a'u bod wedi eu cyhoeddi er budd y cyhoedd.

Fe gytunodd Mrs Justice Steyn, gan wrthod hawliad Clarke mewn dyfarniad ddydd Gwener gan ddweud bod y papur newydd "wedi llwyddo i sefydlu amddiffyniadau gwirionedd a budd y cyhoedd i'r hawliad enllib".

Ychwanegodd: "Rwyf wedi derbyn rhywfaint o dystiolaeth Mr Clarke... ond yn gyffredinol rwy'n gweld nad oedd yn dyst credadwy na dibynadwy."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.