Gwynt a glaw: Disgwyl i Gorwynt Erin ddod â’r haf i ben yng Nghymru
Mae disgwyl i gorwynt oddi ar arfordir America ddod â’r haf i ben yng Nghymru gyda gwynt a glaw yr wythnos nesaf.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd y byddai effaith y cyn-gorwynt i’w deimlo erbyn canol yr wythnos nesaf.
Fe fydd yn golygu bod yr haf yn gorffen gyda thywydd cyfnewidiol ar ôl cyfnod o dywydd clir a phoeth, medden nhw.
Ar hyn o bryd mae Erin yn gorwynt categori dau oddi ar arfordir talaith North Carolina.
Ond yn ystod penwythnos gŵyl y banc mae disgwyl iddo droelli i gyfeiriad Ewrop a chyrraedd yma ganol yr wythnos nesaf.
Ni fydd yn gorwynt erbyn hynny, meddai meteorolegydd y Swyddfa Dywydd, Tom Morgan.
“Mae’n rhy gynnar i roi manylion penodol ynghylch pa rannau o’r wlad fydd yn gweld y tywydd mwyaf gwyntog a gwlypaf,” meddai.
“Yr hyn y gallwn ei ddweud yw y bydd yn raddol yn llai poeth ac yn fwy newidiol yn gyffredinol.”
Mae’n golygu y gallai fod cawodydd taranllyd o ddydd Mercher ac “yn fwy penodol” ddydd Iau a dydd Gwener yr wythnos nesaf.
Ychwanegodd Mr Morgan: “Rydym hefyd yn debygol o weld rhai tonnau mawr iawn.
“Bydd y cyn-gorwynt Erin yn dod ag ymchwydd eithaf mawr yn y môr,” meddai, a allai fod yn “eithaf peryglus”.
Yn y cyfamser fe allai’r DU weld tymheredd o 24C neu 25C mewn rhai mannau ddydd Sul.
Dywedodd Tom Morgan: “Mae’n edrych yn braf, yn sych a bydd cryn dipyn o heulwen gynnes o gwmpas, yn enwedig ddydd Sul ac ar ddydd Llun Gŵyl y Banc.
“Ni ddylai’r tywydd effeithio ar unrhyw wyliau a digwyddiadau awyr agored,
“Mae’n edrych yn debyg iawn y bydd y tywydd yn hafaidd ac yn gynnes iawn i’r rhan fwyaf o bobl.”