Apêl am wybodaeth wedi marwolaeth menyw yng Nghaerdydd

Llofruddiaeth fenyw 21 Awst Caerdydd

Mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth wedi i ddyn gael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio menyw yng Nghaerdydd. 

Fe gafodd swyddogion eu galw i ardal South Morgan Place yng Nglan yr Afon (Riverside) fore Iau wedi adroddiadau fod menyw wedi'i hanafu yn ddifrifol. 

Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys, bu farw y fenyw, a oedd yn ei 30au, yn y fan a'r lle, ac mae ei theulu wedi cael gwybod. 

Fe gafodd dyn 37 oed, yr oedd y fenyw yn ei adnabod, ei arestio mewn cysylltiad â'r farwolaeth ar Heol Seawall ychydig yn ddiweddarach, ac mae'n parhau yn y ddalfa. 

Mae'r heddlu yn awyddus i glywed gan unrhyw un gyda deunydd CCTV preifat ger ardaloedd South Morgan Place neu Heol Seawall rhwng 07:30 a 08:30. 

Ychwanegodd yr heddlu eu bod nhw'n benodol eisiau clywed gan bobl oedd yn teithio rhwng yr ardaloedd hyn, gan gynnwys Stryd Wellington, Heol Clare, Heol Penarth, a Stryd East Tyndall, yn ystod y cyfnod hwn ac sydd heb siarad â swyddogion eto.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Matthew Davies: "Mae gennym ni dîm ymrwymedig o ymchwilwyr sydd wedi bod yn cynnal ymholiadau estynedig yn yr ardal, a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cynnig gwybodaeth hyd yma. 

"Yn benodol, rydym ni'n chwilio am unrhyw beth yn ymwneud â cherbyd Ford Fiesta llwyd yn yr ardaloedd sydd wedi eu crybwyll."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.