Seiclwr ag anafiadau difrifol wedi gwrthdrawiad ar yr A40
Mae seiclwr wedi cael ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau sy'n peryglu bywyd wedi gwrthdrawiad ar yr A40 yn Sir Benfro.
Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i adroddiad o wrthdawiad rhwng fan a seiclwr ar yr A40 ger Llanddewi Elelffre am 08:10 ddydd Gwener.
Roedd y seiclwr wedi cael ei gludo i'r ysbyty mewn ambiwlans awyr ac gydag anafiadau sy'n peryglu bywyd.
Cafodd dyn 33 oed ei arestio ar amheuaeth o achosi anafiadau difrifol trwy yrru'n beryglus a gyrru cerbyd anaddas.
Mae'n parhau yn y ddalfa, meddai'r heddlu.
Wrth i'r heddlu ymchwilio i'r digwyddiad mae'r ffordd ar gau, ac mae disgwyl iddo barhau ar gau am beth amser.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am dystion neu unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu trwy ddyfynnu'r cyfeirnod DP-20250822-066.