Wrecsam yn arwyddo amddiffynwr Manchester City Callum Doyle

callum doyle.jpg

Mae Wrecsam wedi arwyddo eu 10fed chwaraewr ers sicrhau dyrchafiad o Adran Un, a hynny wrth sicrhau fod amddiffynwr Manchester City, Callum Doyle yn trosglwyddo i'r Cae Ras. 

Y gred yw fod y clwb wedi cytuno ar ffi a allai gynyddu i £7.5m ar gyfer Doyle, sy'n 21 oed. 

Fe dorrodd Wrecsam eu record am arwyddo chwaraewr wedi iddyn nhw arwyddo ymosodwr Cymru, Nathan Broadhead yr wythnos diwethaf mewn cytundeb a allai fod werth £10m. 

Mae gan Doyle brofiad helaeth yn y Bencampwriaeth o fod wedi chwarae dros glybiau Coventry, Leicester City a Norwich. 

Dywedodd rheolwr Wrecsam, Phil Parkinson: "Mae'n chwaraewyr â photensial mawr iddo ac mae'n chwaraewr da i ni arwyddo. 

"Dwi'n meddwl ei fod yn ddatganiad o fwriad ein bod ni wedi llwyddo i sicrhau'r chwaraewr gan gystadlu gyda chlybiau sydd wedi bod yn y Bencampwriaeth ers dipyn, yn ogystal â'r Uwch Gynghrair yn ddiweddar, a chlybiau mewn cynghreiriau eraill yn Ewrop."

Mae Lewis O'Brien, Liberato Cacace, Kieffer Moore a Conor Coady ymysg yr enwau y mae Wrecsam wedi eu harwyddo yn y ffenestr drosglwyddo dros yr haf. 

Colli'r ddwy gêm gyntaf o'r tymor ydy hanes Wrecsam yn y Bencampwriaeth hyd yms, ac fe fyddan nhw'n wynebu Sheffield Wednesday gartref ddydd Sadwrn.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.