‘Perygl o danau dinistriol’ o ganlyniad i farbeciws ar draeth yn Ynys Môn
Bydd patrolau ychwanegol ar draeth ar Ynys Môn ar benwythnos gŵyl y banc oherwydd pryderon am “danau dinistriol” yno.
Bydd staff Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), ynghyd â swyddogion o Heddlu Gogledd Cymru, yn patrolio Gwarchodfa Natur Genedlaethol a Choedwig Niwbwrch.
Y nod meddai'r sefydliad yw atal tanau, barbeciws a gwersylla anghyfreithlon, a hynny wedi “tywydd eithriadol o sych”.
“Mae cynnydd wedi bod yn nifer yr ymwelwyr sy’n cynnau tân a barbeciws, y ddau ohonynt wedi’u gwahardd, sy’n golygu bod perygl tanau dinistriol posib,” meddai llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru.
“At hynny, mae gwersylla ar y safle yn anghyfreithlon o hyd, a gallai’r rhai sy’n cael eu dal wynebu dirwy.”
‘Cydbwysedd’
Dywedodd Dylan Williams, Rheolwr Gweithrediadau CNC ar gyfer Gogledd-orllewin Cymru, eu bod nhw’n disgwyl “nifer uchel o ymwelwyr y penwythnos hwn”.
“Rydyn ni’n atgoffa pobl bod gwaharddiad llawn ar waith o hyd ar gyfer pob barbeciw a thân yn dilyn cynnydd mewn digwyddiadau,” meddai.
“Yn dilyn y tywydd eithriadol o sych, dim ond un wreichionen mae’n ei gymryd i gychwyn tân a allai ddinistrio bywyd gwyllt a chymunedau a rhoi ein gwasanaethau brys o dan bwysau ychwanegol.
“Rydyn ni hefyd am atgoffa ymwelwyr na chaniateir aros dros nos.
“Mae’r safle yn gartref i rai o gynefinoedd mwyaf gwerthfawr Cymru ac mae’n cefnogi amrywiaeth o fywyd gwyllt prin.
“Rhaid cadw cydbwysedd rhwng dymuniadau unigolion i fwynhau’r awyr agored a’n cyfrifoldebau i warchod natur a pharchu cymunedau lleol.
“Mae mwyafrif llethol y bobl sy’n ymweld yn ymddwyn yn gyfrifol a hoffem ddiolch iddyn nhw am wneud eu rhan. Rydym yn gobeithio y bydd hynny’n parhau wrth i ni gychwyn ar benwythnos gŵyl y banc.”
Mesurau ar waith
Bydd mesurau rheoli traffig hefyd yn eu lle yn Niwbwrch a bydd meysydd parcio’r safle yn cau pan fyddant yn llawn (disgwylir y bydd hynny cyn 10am yn ystod y cyfnod prysur hwn) sy’n golygu na fydd modd i gerbydau gyrraedd y safle.
Ni fyddant yn ailagor tan yn hwyrach yn y prynhawn hyd yn oed wrth i fannau parcio ddod ar gael.
Nod hyn yw hwyluso llif traffig ac atal ceir rhag parcio ym mhentref Niwbwrch wrth iddynt ddisgwyl i leoedd ddod ar gael yn y maes parcio.
Nod arall y dull hwn o weithredu yw diogelu bywyd gwyllt gwerthfawr y safle – a gwella profiad ymwelwyr a lleihau tagfeydd, meddai Cyfoeth Naturiol Cymru.
Bydd Swyddogion Gorfodi Sifil Cyngor Sir Ynys Môn yn dal ati i batrolio a gorfodi mesurau parcio ym mhentref Niwbwrch ac ar yr A4080 Llyn Parc Mawr, ac maen nhw’n gofyn i unrhyw un sy’n ymweld â’r ardal i barcio’n ddiogel, yn gyfreithlon ac yn gyfrifol.
Maen nhw hefyd yn gofyn i ymwelwyr ystyried ymweld ag un o’r nifer o draethau a chyrchfannau eraill ar Ynys Môn.