A fydd peiriant presgripsiwn 'cyntaf y byd' Gwynedd yn dod i Fôn?

Peiriant Remedy

Gallai peiriant presgripsiwn "cyntaf y byd" sydd wedi’i dreialu yng Ngwynedd gael ei gynnig yn fuan ar Ynys Môn.

Cafodd peiriant Remedy ei lansio yn Nolgellau yn gynharach eleni ac mae cynlluniau i gyflwyno ail beiriant yng Nghaergybi yn fuan.

Mae'r peiriant yn galluogi cleifion i gasglu presgripsiwn pan fydd fferyllfeydd lleol ar gau gyda’r nos neu ar y Sul, neu mewn ardaloedd gwledig.

Mae'r treial dwy flynedd yn rhan o brosiect ar y cyd rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Phrifysgol Bangor. 

Mae’n cael ei arwain gan y meddyg teulu Dr Rebecca Payne, yr athro Dyfrig Hughes a Dr Adam Mackridge, arweinydd strategol y bwrdd iechyd ar gyfer fferyllfeydd cymunedol.

Mae pobl a gysylltodd â'r gwasanaeth iechyd y tu allan i oriau gwaith wedi gallu casglu presgripsiynau o’r peiriant y tu allan i Ysbyty Dolgellau.

Byddai cleifion yn derbyn rhif pin, fel peiriant banc, er mwyn cael mynediad at y feddyginiaeth sy'n gallu cynnwys gwrthfiotigau a steroidau.

Dywedodd Dr Mackridge bod adborth cynnar gan dimau clinigol a chleifion wedi bod yn "gadarnhaol iawn" hyd yma.

"Mae eisoes wedi denu cryn dipyn o ddiddordeb, gan wasanaethau iechyd, clinigwyr ac academyddion o gyn belled ag Awstralia," meddai.

"Fel rhan o'r prosiect, rydym nawr yn edrych i osod ail beiriant yn ardal Caergybi.

"Os bydd yn mynd yn ei flaen, rydym yn gobeithio gweld cynnydd yn y flwyddyn nesaf, o bosibl mewn cyn lleied â chwe mis.

"Yn ôl pob tebyg byddai yn ardal ysbyty Penrhos Stanley, yn ddibynnol ar gyllid."

'Cyntaf y byd'

Cafodd y peiriant ei dreialu ar y cyhoedd i ddechrau gan ddefnyddio siocled i wirio ei fod yn gweithio'n iawn.

"Mae'r prosiect ymchwil yn rhedeg tan fis Mawrth 2027, ac erbyn hynny rydym yn disgwyl cael darlun cliriach o'i werth — yn ymarferol ac yn ariannol," meddai.

"Rydym yn credu nad dyma'r tro cyntaf yng Nghymru yn unig, ond y tro cyntaf yn y byd, i beiriant o'r math hwn gael ei greu."

Ychwanegodd fod y peiriant wedi dod i fodolaeth ers i glinigwyr ddechrau ymgysylltu fwy ag ymgynghoriadau dros y ffôn.

"Fe wnaeth y broblem godi o sut i gael cyffuriau i'r bobl oedd eu hangen, pan oedd llai o fferyllfeydd y tu allan i oriau ar gael," meddai.

"Mewn rhai ardaloedd, mae wedi bod yn anoddach dod o hyd i fferyllwyr i'w cyflogi, tra i rai busnesau nid yw'n hyfyw yn aml i dalu staff i aros ar agor yn hwyrach pan fyddant efallai ond yn dosbarthu llond llaw o bresgripsiynau.

"Mewn rhai rhannau o Gymru, mae'n rhaid i bobl deithio'n eithaf pell i ddod o hyd i fferyllfa y tu allan i oriau."

Mae'r peiriant wedi'i stocio â'r mathau mwyaf cyffredin o feddyginiaeth a gallai hefyd helpu i atal rhai afiechydon rhag datblygu.

"Er enghraifft, os oes gan rywun haint, ac na allant fynd at feddyg teulu neu fferyllfa ar unwaith, gallai cychwyn antibiotig yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach ei rhwystro rhag gwaethygu, neu hyd yn oed arwain at sepsis," meddai.

Nododd nad yw'r peiriant yn newid sut mae argyfyngau'n cael eu trin.

"Mae gennym ni wasanaethau a systemau wrth gefn ar waith o hyd, gyrwyr ac ambiwlansys, i helpu pobl i gael y triniaethau sydd eu hangen arnynt yn gyflym, ac i ddelio â sefyllfaoedd meddygol brys," meddai.

"Yr hyn nad ydym wedi'i ddatrys yn llwyr yw'r broblem o sut i gael meddyginiaeth i bobl y tu allan i oriau, ond yr astudiaeth hon yw'r cam cyntaf tuag at ateb."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.