Israel I ddechrau trafodaethau i ryddhau'r holl wystlon yn Gaza
Mae Prif Weinidog Israel Benjamin Netanyahu yn dweud ei fod wedi gorchymyn i drafodaethau i gael eu cynnal ar unwaith i ryddhau'r holl wystlon sy'n dal i gael eu cadw gan Hamas yn Gaza.
Dywedodd Mr Netanyahu nos Iau fod ei gabinet wedi cymeradwyo cynlluniau am ymosodiad sylweddol ar Ddinas Gaza, a fyddai'n gorfodi cannoedd ar filoedd o drigolion i symud tua'r de.
Ychwanegodd ei fod eisiau'r rhyfel ddod i ben, a hynny "ar delerau Israel".
Fe wnaeth Hamas gytuno i gynnig am gadoediad 60 diwrnod ddydd Llun, ac fe fyddai hyn yn gweld rhyddhau hanner y gwystlon sy'n parhau yn Gaza.
Ond wrth ymateb am y tro cyntaf, dywedodd Mr Netanyahu nad yw wedi derbyn y cynnig presennol.
Ddydd Sadwrn diwethaf, dywedodd swyddfa Mr Netanyahu y byddai Israel "ond yn cytuno i gytundeb ar yr amod fod yr holl wystlon yn cael eu rhyddhau ar yr un pryd".
Ychwanegodd fod yr amodau ar gyfer dod â'r rhyfel i ben yn cynnwys diarfogi Hamas, dadfilwroli Gaza, rheolaeth Israel dros Gaza, a sefydlu llywodraeth nad yw'n rhan o Hamas nac o Awdurdod Palesteinaidd.
Mae'r IDF wedi rhybuddio swyddogion meddygol a sefydliadau rhyngwladol i baratoi i symud poblogaeth gyfan Dinas Gaza o un miliwn o drigolion i ardaloedd yn y de cyn i filwyr symud yno.
Dywedodd gweinyddiaeth iechyd Gaza sy'n cael ei rhedeg gan Hamas ei bod yn gwrthod "unrhyw gam sy'n tanseilio beth sy'n weddill o'n system iechyd".
Mae'r Cenhedloedd Unedig a grwpiau cymorth wedi addo i aros yno i helpu'r rhai sydd ddim yn gallu, neu yn dewis peidio, symud.