
Canllaw cyflym i Gwpan Rygbi'r Byd y Menywod
Fe fydd Cwpan Rygbi'r Byd y Menywod yn dechrau yn Lloegr ddydd Gwener.
Y gêm gyntaf yn y gystadleuaeth fydd Lloegr yn erbyn America, a hynny yn Sunderland.
Fe fydd Cymru yn chwarae eu gêm agoriadol yn erbyn Yr Alban ddydd Sadwrn, a hynny am 14:45.
Yna, fe fyddan nhw'n wynebu Canada a Ffiji ar y dyddiau Sadwrn canlynol.
Fe fydd Lisa Neumann yn ennill ei 50fed cap wrth i Gymru ddechrau eu hymgyrch.
Ac fe fydd Alex Callender yn ôl yn nhîm Cymru wedi pryderon am ei ffitrwydd fel y cyd-gapten ynghyd â Kate Williams.
Mae Nel Metcalfe, Jasmine Joyce-Butchers, Lleucu George, Keira Bevan, a Gwenllian ac Alaw Pyrs ymysg yr enwau sydd wedi'u cynnwys.

Pwy fydd y pencampwyr?
Dyma fydd y 10fed tro i'r bencampwriaeth gael ei chynnal, a Lloegr ydy'r ffefrynnau i gael eu coroni yn bencampwyr ar ôl iddyn nhw ennill eu 27 gêm ddiwethaf.
Mae'r pencampwyr presennol, Seland Newydd, yn ogystal â Canada, Ffrainc, Awstralia, hefyd yn gobeithio hawlio teitl y pencampwyr.
Mae'r gystadleuaeth wedi ehangu o'r 12 tîm a oedd yn rhan o Gwpan y Byd 2022, gyda 16 tîm bellach yn cystadlu eleni, gan gynnwys Brasil am y tro cyntaf.
Bydd y gemau yn cael eu cynnal ar draws Lloegr, gan gynnwys Salford, Bryste, Exeter, Brighton ac Efrog.
Fe fydd y tîm sy'n ennill y grŵp a'r tîm sy'n ail yn mynd yn eu blaen i'r rowndiau nesaf.
Bydd gemau'r wyth olaf yn cael eu cynnal ar 13 a 14 Medi, a'r rownd gyn-derfnol ar 19 a 20 Medi.
27 Medi ydy'r dyddiad ar gyfer y rownd derfynol, gyda'r ffeinal yn dechrau am 16:00.
Er fod yna naw Cwpan Rygbi'r Byd y Menywod eisoes wedi eu cynnal, dim ond tair gwlad sydd wedi ennill y gystadleuaeth.
Mae Seland Newydd wedi ennill chwe gwaith, Lloegr wedi ennill ddwywaith ac UDA wedi ennill unwaith, a hynny yng Nghaerdydd ym 1991.
Creu hanes
Yn ystod y gystadleuaeth 32 gêm, mae 375,000 o'r 470,000 o docynnau eisoes wedi cael eu gwerthu, sef tair gwaith y nifer a gafodd eu gwerthu yng Nghwpan y Byd yn Seland Newydd.
Mae pob tocyn i'r rownd derfynol eisoes wedi gwerthu, gan olygu mai dyma'r dorf fwyaf erioed i wylio gêm rygbi menywod.
Fe gafodd y record presennol hefyd ei gosod yn Stadiwm Twickenham, sydd yn dal 82,000 o bobl, pan y gwnaeth 58,498 wylio Lloegr yn curo Ffrainc yn y Chwe Gwlad yn 2023.
Fe gadarnhaodd World Rugby yr wythnos hon y bydd y pedwar tîm sy'n cyrraedd y rownd gyn-derfynol yn cymhwyso yn awtomatig ar gyfer Cwpan y Byd 2029 yn Awstralia.