Cipolwg ar gemau nos Wener y Cymru Premier JD
Wedi dim ond dwy rownd o gemau does gan dim un o glybiau’r gynghrair record gant-y-cant yn y Cymru Premier JD y tymor hwn.
Caernarfon, Llansawel a’r Barri sy’n arwain y ffordd wedi’r pythefnos agoriadol gyda un buddugoliaeth ac un gêm gyfartal yr un.
Mae gan bedwar o dimau gêm wrth gefn yn barod wedi i ddwy gêm gael eu gohirio yn Sir y Fflint y penwythnos diwethaf oherwydd problemau gyda pibellau dŵr yn yr ardal.
Hwn fydd y tymor olaf dan y drefn bresennol o gael 12 tîm yn y gynghrair, cyn i’r nifer o aelodau gynyddu i 16 o glybiau ar gyfer tymor 2026/27. Mae hynny’n golygu y bydd chwech o glybiau yn esgyn o’r ail haen ar ddiwedd y tymor hwn, a’r ddau isaf yn syrthio o’r uwch gynghrair. Bydd pedwar safle ar gael yn Ewrop ar ddiwedd y tymor hwn, cyn i’r swm hwnnw syrthio yn ôl i lawr i dri ar gyfer y flwyddyn ganlynol.
Nos Wener, 22 Awst
Hwlffordd (11eg) v Met Caerdydd (6ed) | Nos Wener – 19:45
Roedd Hwlffordd yn un o’r rhai gafodd benwythnos o orffwys gan i’w gornest yn erbyn Y Fflint gael ei gohirio oherwydd trafferthion gyda’r pibellau dŵr yn y gogledd ddwyrain.
Hwlffordd felly yw’r unig dîm sydd heb sgorio gôl yn y gynghrair y tymor hwn yn dilyn eu colled o 1-0 gartref yn erbyn Pen-y-bont ar y penwythnos agoriadol.
Dau bwynt sydd gan Met Caerdydd wedi eu dwy gêm gyfartal hyd yma yn erbyn Caernarfon a Llansawel, a byddai’n ddim syndod pe bae’r gêm hon yn gorffen yn gyfartal hefyd.
Mae’r gemau diweddaraf rhwng y clybiau yma wedi bod yn rhai agos tu hwnt, a does dim un o’r timau wedi llwyddo i sgorio mwy nac unwaith yn yr wyth gornest flaenorol (Met 0-0 Hwl, Met 1-1 Hwl, Hwl 1-1 Met, Hwl 1-1 Met, Met 0-0 Hwl, Hwl 1-0 Met, Hwl 1-0 Met, Met 1-1 Hwl).
Dyw Hwlffordd felly heb golli yn erbyn Met Caerdydd ers Rhagfyr 2022, gyda chwech o’r wyth gêm gêm rhwng y timau ers hynny’n gorffen yn gyfartal.
Record cynghrair diweddar:
Hwlffordd: ❌
Met Caerdydd: ͏➖➖
Llanelli (12fed) v Llansawel (2il) | Nos Wener – 19:45 (Yn fyw arlein)
Mae hi wedi bod yn ddechrau anodd i’r tymor i Lanelli gyda’r newydd-ddyfodiaid yn colli eu dwy gêm agoriadol ar ôl sicrhau dyrchafiad dros yr haf.
Roedd hi’n grasfa o 6-1 i’r Cochion oddi cartref yn erbyn Caernarfon brynhawn Sadwrn, a bydd Lee John yn disgwyl ymateb gan ei garfan yn erbyn Llansawel y penwythnos hwn.
Mae Llansawel, ar y llaw arall, wedi dechrau’n eithriadol o gryf gan drechu’r pencampwyr ar eu tomen eu hunain, cyn cael gêm gyfartal gartref yn erbyn Met Caerdydd.
Ruben Davies yw seren y sioe ar y funud, gyda’r ymosodwr ifanc 21 oed wedi sgorio pum gôl mewn tair gêm ym mhob cystadleuaeth i Lansawel y tymor hwn.
Hon fydd y gêm gyntaf erioed rhwng y clybiau yn Uwch Gynghrair Cymru, ond mae’r timau wedi cyfarfod ar sawl achlysur yn yr haenau îs, a Llansawel enillodd yr ornest ddiwethaf ym mis Ebrill 2024 gyda buddugoliaeth o 5-2 ar Barc Stebonheath ble sgoriodd Luke Bowen hatric i dîm Andy Dyer yng Nghynghrair y De.
Record cynghrair diweddar:
Llanelli: ❌❌
Llansawel: ͏✅➖
Y Bala (8fed) v Bae Colwyn (7fed) | Nos Wener – 19:45
Ar ôl pythefnos o orffwys oherwydd trafferthion dŵr Y Fflint, bydd Y Bala’n anelu am eu buddugoliaeth gyntaf yn y gynghrair dan arweiniad eu rheolwr newydd, Steve Fisher.
Ac er bod Bae Colwyn wedi cael dechrau addawol gyda gemau cyfartal yn erbyn Cei Connah a’r Barri, bydd Michael Wilde hefyd yn awyddus i gipio ei driphwynt cyntaf fel rheolwr yn y Cymru Premier JD.
Bydd sawl wyneb cyfarwydd yn dychwelyd i Faes Tegid nos Wener gyda Nathan Peate, Aeron Edwards a Louis Robles ymysg y nifer a symudodd o’r Bala i Fae Colwyn dros yr haf.
Enillodd Y Bala eu dwy gornest yn erbyn Bae Colwyn yn nhymor 2023/24, ac felly bydd y Gwylanod yn anelu am eu buddugoliaeth gyntaf erioed yn erbyn Hogiau’r Llyn.
Record cynghrair diweddar:
Y Bala: ➖
Bae Colwyn: ͏➖➖
Y Barri (3ydd) v Pen-y-bont (5ed) | Nos Wener – 19:45
Mae’r Barri wedi dechrau’r tymor yn gadarn gyda buddugoliaeth yn erbyn Llanelli a gêm gyfartal yn erbyn Bae Colwyn.
Roedd gan Pen-y-bont gyfle i agor bwlch cynnar rhyngddyn nhw a’r Seintiau Newydd ddydd Sadwrn diwethaf, ond roedd y pencampwyr yn rhy gryf i griw Rhys Griffiths gyda’r Seintiau’n ennill o 2-0 yn Stadiwm Dragonbet.
Bydd Pen-y-bont yn gorfod ymdopi unwaith eto heb eu prif flaenwr James Crole sydd wedi ei wahardd am dair gêm ar ôl gweld cerdyn coch ar y penwythnos agoriadol, ond bydd Noah Daley yn dychwelyd i’r garfan yn dilyn gwaharddiad o ddwy gêm am dderbyn 10 cerdyn melyn i Gaerfyrddin y tymor diwethaf.
Fe wnaeth y timau yma gyfarfod deirgwaith yn ystod y tymor diwethaf gyda Pen-y-bont yn ennill ddwywaith yn y gynghrair, a’r Barri yn ennill 3-2 gartref yn rownd wyth olaf Cwpan Nathaniel MG.
Record cynghrair diweddar:
Y Barri: ✅➖
Pen-y-bont: ͏✅❌
Y Fflint (10fed) v Caernarfon (1af) | Nos Wener – 19:45
Caernarfon sydd yn eistedd ar frig y tabl ar ôl gêm gyfartal oddi cartref ym Met Caerdydd cyn chwalu Llanelli o 6-1 gartref ar Barc Maesdu y penwythnos diwethaf.
Adam Davies oedd yr arwr i’r Caneris brynhawn Sadwrn, yn taro hatric cynta’r tymor a chreu un gôl arall yng nghartref dros dro Caernarfon.
Cafodd gêm Y Fflint ei gohirio ddydd Sadwrn oherwydd diffyg dŵr yn yr ardal, ond gyda’r broblem honno wedi ei datrys bydd y Sidanwyr yn dychwelyd i Gae-y-Castell ble mae tîm Lee Fowler wedi ennill eu wyth gêm gartref ddiwethaf yn y gynghrair.
Enillodd Caernarfon eu dwy gêm yn erbyn Y Fflint y tymor diwethaf, a dyw’r Sidanwyr m’ond wedi ennill un o’u naw gornest flaenorol yn erbyn y Cofis.
Record cynghrair diweddar:
Y Fflint: ➖
Caernarfon: ͏➖✅
Y Seintiau Newydd (4ydd) v Cei Connah (9fed) | Nos Wener – 19:45
Wedi bagliad annisgwyl ar y penwythnos agoriadol roedd y Seintiau yn ôl i’w hen arferion ddydd Sadwrn, yn ennill o 2-0 oddi cartref yn erbyn un o’u prif gystadleuwyr, Pen-y-bont.
Ar ôl colli’n drwm o 3-0 gartref yn erbyn Llansawel, bydd Craig Harrison yn teimlo rhyddhad mawr o fod wedi curo Pen-y-bont, a bod ei flaenwr newydd Ben Wilson wedi sgorio ei gôl gynta’n y gynghrair.
Bydd y coesau’n ffres yn Cei Connah wrth i John Disney geisio hawlio ei driphwynt cyntaf ers cael ei benodi’n reolwr ar y clwb dros yr haf.
Aeth y clybiau benben deirgwaith y tymor diwethaf ac fe enillodd y Seintiau y dair gêm o 2-1, yn cynnwys rownd derfynol Cwpan Cymru JD yn Rodney Parade ym mis Mai.
Record cynghrair diweddar:
Y Seintiau Newydd: ❌✅
Cei Connah: ➖
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a’r gorau o gyffro’r penwythnos ar S4C nos Lun.