Carchau dyn am ddianc rhag yr heddlu mewn 'roliwr tarmac'
Carchau dyn am ddianc rhag yr heddlu mewn 'roliwr tarmac'
Mae dyn 21 oed a geisiodd ddianc oddi wrth yr heddlu ar gefn roliwr tarmac ffordd cyn gwrthdaro â gwrych ar ffordd gefn wedi ei garcharu.
Fe glywodd Llys y Goron yr Wyddgrug fod briciau a blociau wedi'u taflu allan o fwced yn ystod y digwyddiad aeth ymlaen am ddwy filltir ar hyd y ffordd gefn, gan daro bonet car heddlu.
Dywedodd yr erlynydd yn yr achos, Amy Edwards, fod y roliwr wedi'i gymryd heb ganiatad yn ystod oriau mân 3 Mehefin, a hynny o glwb criced Cei Connah.
Fe gysylltodd aelod o'r cyhoedd â'r heddlu am 05:00 ar y dyddiad dan sylw i adrodd fod dau ddyn yn teithio ar y roliwr gyda photel o win.
Fe blediodd Leon Mitchell, o Ffordd Parkgate, Caer, yn euog i gyhuddiadau o yrru'n beryglus, gyrru pan oedd wedi'i wahardd, cymryd y roliwr heb ganiatâd, methu â darparu prawf alcohol, a difrod troseddol.
Cafodd ei garcharu am 10 mis, a'i wahardd rhag gyrru am 41 mis gyda phrawf estynedig wedi'i orchymyn ar ddiwedd y cyfnod.
Dywedodd y Barnwr Rhys Rowlands: "Nid oedd cyflymder mawr yn gysylltiedig a'r achos yma. Wrth gwrs, roedd maint a phwysau'r roliwr yn rhoi'r potensial iddo achosi difrod sylweddol iawn.
“Dim ond drwy ddedfryd o garchar ar unwaith y gellir gosod cosb briodol.
“Mae’n achos anarferol, a dweud y lleiaf,” ychwanegodd y Barnwr Rowlands, gan fynd ymlaen i nodi fod y digwyddiad yn weithred o “ffwlbri meddw” gyda Mitchell, yn "dangos ei hun i’w ffrind."
“Mae digon o dystiolaeth o anwybyddu rheolau’r ffordd yn fwriadol yma." ychwanegodd y barnwr.