Llanrwst: Apêl wedi i gerbyd daro bachgen a thorri ei goes cyn gyrru i ffwrdd

Llanrwst

Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad a ddigwyddodd ar Heol yr Orsaf, Llanrwst, ddydd Llun, 18 Awst.

Ychydig ar ôl hanner dydd, cafodd bachgen 13 oed ei daro gan gerbyd du ar ôl iddo golli ei gydbwysedd a chamu oddi ar y palmant.

Fe syrthiodd y bachgen i'r llawr, ac er i'r gyrrwr arafu, methodd â stopio.

Cafodd y bachgen ei gludo i'r ysbyty. Roedd ei goes wedi torri mewn tri lle.

Dywedodd PC Martin Taylor o Heddlu'r Gogledd: “Diolch byth, nid yw anafiadau'r bachgen yn peryglu ei fywyd—ond mae penderfyniad y gyrrwr i beidio â stopio i weld os oedd yn iawn wedi gadael ei deulu'n ofidus iawn, ac mae hynny yn ddealladwy.

“Mae ymholiadau CCTV cychwynnol wedi'u cynnal ond rydym yn dal i chwilio am unrhyw dystion, lluniau camera dashcam, neu wybodaeth a allai helpu i adnabod y cerbyd neu'r gyrrwr dan sylw.

“Rydym yn cydnabod y gall digwyddiadau o’r natur hon achosi pryder yn y gymuned, ac rydym wedi ymrwymo i wneud popeth posibl i sicrhau eglurder ac atebolrwydd.

“Os oeddech chi yn yr ardal neu os oes gennych chi luniau neu fanylion perthnasol, cysylltwch â ni drwy’r wefan neu drwy 101, gan ddyfynnu cyfeirnod digwyddiad 25000684440.”

Llun: Google

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.