Bethesda: Cyhuddo dyn 19 oed ar ôl i gar gael ei yrru at unigolyn

Bethesda

Mae dyn 19 oed wedi cael ei gyhuddo wedi adroddiadau fod car wedi cael ei yrru at unigolyn ar Stryd Fawr Bethesda ddydd Llun.

Mae Thomas Baker, o Glan Ogwen, Bethesda, wedi cael ei gyhuddo o anafu yn fwriadol, ymosod, gyrru'n beryglus, gyrru heb yswiriant a gyrru tra ei fod wedi ei wahardd rhag gwneud hynny.

Bydd yn ymddangos yn Llys Ynadon Llandudno ddydd Mercher.

Fe gafodd dau berson arall eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad ac maent bellach wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth tra bod ymholiadau yn parhau. 

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru ddydd Llun bod y gwasanaethau brys eu galw ar ôl y digwyddiad a bod un dyn wedi ei gludo i'r ysbyty. Mae bellach wedi ei ryddhau. 

Mae'r heddlu yn annog unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod C128574. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.