Y Ceidwadwyr yn 'analluog' medd cyn AS Ceidwadol
Mae cyn AS Ceidwadol wedi gadael y blaid gan ddweud fod y Ceidwadwyr bellach yn 'analluog', er ei bod yn bwriadu sefyll ar gyfer etholiadau’r Senedd y flwyddyn nesaf.
Fe ddywedodd Sarah Atherton, a gollodd ei sedd yn yr etholiad cyffredinol fis Gorffennaf y llynedd, wrth Newyddion S4C, nad ydy’r Ceidwadwyr yn “gydnaws gyda’i gwerthoedd hi na’i hideoleg”.
Er hyn, nid yw Ms Atherton wedi cadarnhau dros ba blaid fyddai’n sefyll.
Nid oedd y Ceidwadwyr am wneud sylw ar y mater.
Mae Sarah Atherton wedi mynnu fod ganddi “ddal lawer iawn i’w roi” ac yn gobeithio i barhau a’i gyrfa wleidyddol ym Mae Caerdydd gan gyfeirio at ei gwaith o fewn y sector goal cymdeithasol.
Roedd Ms Atherton yn AS dros Wrecsam o 2019 hyd nes iddi golli ei sedd yn 2024. Roedd hi'n Ysgrifennydd Gwladol dros bobl, cyn-filwyr a theuluoedd am gyfnod byr yn 2022.
Y llynedd, dywedodd Ms Atherton wrth BBC Cymru y dylai'r Ceidwadwyr "groesawu" arweinydd Reform UK Nigel Farage ac fe feirniadodd arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru ar y pryd, Andrew RT Davies ei sylwadau.
Fe ddywedodd Ms Atherton wrth Newyddion S4C dydy hi heb ymaelodi â Reform UK.
Ychwanegodd doedd hi ddim yn gallu sefyll dros y Ceidwadwyr, gan gyfeirio hefyd at broses ddewis ymgeiswyr y blaid sy’n rhoi blaenoriaeth i aelodau presennol o'r Senedd.
Mae etholaethau Cymru wedi eu hail-lunio cyn etholiad y Senedd fis Mai nesaf, gydag 16 etholaeth newydd yn ethol chwe aelod yr un.
Fis diwethaf, fe wnaeth y cyn-aelod Ceidwadol Laura Anne Jones adael ei phlaid gan ymuno a Reform UK. Hi felly yw aelod cyntaf y blaid yn y Senedd.