
Rhybudd ffermwr o Sir Gâr a gollodd ei law am beryglon y 'diwydiant peryclaf'
Rhybudd: Gall rhai manylion yn yr erthygl hon beri gofid.
Wrth i adroddiad newydd awgrymu bod mwy o ddamweiniau yn digwydd ar ffermydd nag mewn unrhyw weithle arall, mae dyn o Sir Gâr a gollodd ei law mewn damwain fferm wedi rhybuddio am beryglon y diwydiant.
Mae’r ffigyrau newydd gan Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn dweud bod 23 o ffermwyr wedi eu lladd yn y DU yn 2024/25 yn unig.
Gydag wyth o bob 100,000 o weithwyr yn marw mewn damweiniau, y diwydiant amaethyddiaeth yw’r diwydiant mwyaf peryglus yn y DU yn ôl y ffigyrau hyn.
Un o’r rheini a ddioddefodd ddamwain ddifrifol ar fferm yw Aneurin Jones, sydd yn byw ar fferm ar gyrion pentref Pumsaint yn Sir Gaerfyrddin.
Yn 2016, fe gafodd ddamwain ar y fferm a achosodd iddo golli ei law.
Dywedodd fod perygl y gallai diogelwch waethygu ym myd amaethyddiaeth yn sgil yr heriau ariannol sydd wedi taro ffermwyr yn ddiweddar.
“Mae diogelwch wedi gwella ond does dim cymaint o arian sy’n golygu efallai bod ffermwyr yn gwneud swydd ar gyfer dau berson eu hunain a dyna pryd mae damweiniau yn digwydd,” meddai wrth Newyddion S4C.
“Gwyllti” (brysio) oedd yn gyfrifol am ei ddamwain ei hun meddai wrth iddo geisio tynnu carreg o beiriant cynaeafu wrth godi silwair.
Doedd o ddim yn meddwl bod y llafnau'n rhedeg ac roedd y golau wedi pylu gyda’r nos. Fe gollodd ei law gyfan yn y ddamwain.
Esboniodd fod “gwyllti yn achosi damweiniau” ac felly mae “angen i ffermwyr feddwl am y gwaith sydd i’w wneud a bod yn ofalus.”
"Os alla i helpu un ffermwr i feddwl beth maent yn ei wneud, mae hynny'n beth da,” meddai.
Roedd yn ôl wrth ei waith chwe wythnos ar ôl y ddamwain a’n dweud ei fod yn “dal i ffermio - fi’n benderfynol o gadw i fynd”.

‘Pawb angen neud eu peth’
Ar gyfartaledd, mae 9,000 o weithwyr fferm yn dioddef anafiadau yn sgil damweiniau fferm yn flynyddol.
Ac ar gyfartaledd, mae 31 o fywydau yn cael eu colli yn flynyddol.
Yr wythnos ddiwethaf yn unig, cofnodwyd dwy farwolaeth ar ffermydd yn Sir Durham yn Lloegr ac yn Nhorfaen.
Amcangyfrifir i ddamweiniau ar y fferm gostio tua £190 miliwn yn flynyddol.
Gemma Haines yw Swyddog Polisi Undeb Amaethwyr Cymru gyda chyfrifoldeb dros ddiogelwch ar y fferm.
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd ei bod yn “siomedig i glywed” canfyddiadau adroddiad Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a bod “angen neud yn well” gan gydnabod bod “wastod lle i wella”.
Gyda 48% o farwolaethau fferm yn digwydd i bobl dros 65 oed, dywedodd bod angen cyfathrebu’r neges am ddiogelwch fferm i bawb gan nodi ei bod yn “bwysig trafod gyda phlant am ddiogelwch fferm”.
Ychwanegodd bod y “pwysau ariannol ar ffermwyr yn effeithio ar iechyd meddwl sydd yn ei dro yn effeithio ar ddiogelwch fferm - mae’r ddau ynghlwm â’i gilydd.”
“Mor belled bod damweiniau yn digwydd mae angen i’r diwydiant dalu sylw,” meddai wrth Newyddion S4C.
‘Codi ofn’
Mae Glyn Davies yn un o lysgenhadon Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru a dywedodd bod canfyddiadau yr adroddiad yn “ofid i ni fel partneriaeth ac i’r diwydiant”.
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd ei fod yn anodd cyfathrebu gyda phawb gyda phobl hŷn heb “adnoddau i gael gafael ar wybodaeth a phlant ddim yn gweld peryg”.
“Mae ‘na ganran o bobl sydd yn fodlon cymryd cyngor, canran sydd yn anoddach i’w cyrraedd ac yna canran arall sydd yn neud fel y mynnon nhw,” meddai.
Yn ôl Glyn, “mae’n dalcen caled i drio lleihau damweiniau ar y fferm.”
“Mae’n anodd tynnu llinell rhwng beth sy’n dderbyniol a ddim yn dderbyniol ar fferm... mae angen cynnig cyngor yn fwy na gosod awdurdod,” meddai.
Os ydych wedi cael eich heffeithio gan faterion sydd yn cael eu trafod yn yr erthygl, mae modd dod o hyd i gymorth yn y ddolen yma: https://www.s4c.cymru/cy/cymorth/