Undeb Rygbi Cymru yn cefnogi torri nifer y timau proffesiynol o bedwar i ddau

Undeb Rygbi Cymru yn cefnogi torri nifer y timau proffesiynol o bedwar i ddau

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cyhoeddi eu cynnig fydd yn gweld torri ar nifer y timau proffesiynol yng Nghymru o bedwar i ddau.

Roedd yr undeb eisoes wedi cadarnhau ym mis Gorffennaf eu bod yn ystyried cwtogi nifer y rhanbarthau rygbi proffesiynol i ddau neu dri.

Ar hyn o bryd, y pedwar rhanbarth ydy Rygbi Caerdydd, Y Dreigiau, Scarlets a Gweilch, ac nid oes unrhyw gadarnhad pa ranbarthau fydd yn cael eu diddymu nac yn goroesi'r newid sylweddol i batrwm rygbi proffesiynol yng Nghymru.

Er eu bod yn mynnu nad oes unrhyw benderfyniad terfynol wedi'i wneud eto, dywed yr undeb mai torri'r nifer o dimau proffesiynol i ddau ydy'r "cam radical" sydd ei angen i achub y gêm yng Nghymru. 

Nid yw'n glir hyd yn hyn beth yw dyfodol Rygbi Caerdydd, Y Dreigiau, Scarlets a Gweilch. 

Fe fydd cyfnod ymgynghori yn dechrau ar 1 Medi cyn argymhelliad ganol mis Hydref i fwrdd Undeb Rygbi Cymru i wneud penderfyniad terfynol yn ddiweddarach yn y mis. 

Fe fydd Undeb Rygbi Cymru yn mynd ati'n syth i ddechrau trafodaethau gyda'r pedwar clwb proffesiynol presennol ynghyd â grwpiau cefnogwyr pob clwb, panel o gefnogwyr, a Chymdeithas Chwaraewyr Rygbi Cymru.

Mae Undeb Rygbi Cymru yn gobeithio cael y strwythur newydd ar gyfer y gêm broffesiynol yn ei le erbyn tymor 2027/28 fan bellaf.

Mae'r cyfarwyddwr rygbi newydd Dave Reddin, y Prif Weithredwr Abi Tierney a'r cadeirydd Richard Collier-Keywood wedi bod yn rhan o'r cynllun.

Daw'r cynlluniau i ailstrwythuro wrth i'r Scarlets a'r Gweilch gyhoeddi buddsoddiad a chynlluniau newydd.

Ddechrau'r mis cyhoeddwyd bod y Scarlets wedi sicrhau buddsoddiad sylweddol gan gwmni o America, a fydd yn prynu cyfran gwerth 55% o’r clwb.

Image
Presser WRU
Richard Collier-Keywood, Dave Reddin ac Abi Tierney.

Fel rhan o “bartneriaeth strategol hanesyddol”, mae’r cwmni asiantaeth asedau moethus o America, House of Luxury LLC (HOL), wedi datgan ei fwriad i ddod yn brif gyfranddaliwr ar y clwb a chymryd rheolaeth ohono.

Yn y cyfamser, mae'r Gweilch wedi cyhoeddi eu bwriad i adnewyddu stadiwm San Helen yn Abertawe er mwyn chwarae yno.

Mae wedi bod yn gyfnod cythryblus i Rygbi Caerdydd, a aeth i ddwylo'r gweinyddwyr ym mis Ebrill. Maen nhw ar hyn o bryd dan berchnogaeth yr undeb.

Ym mis Mai, fe wnaeth dau o’r rhanbarthau, Scarlets a Gweilch, wrthod arwyddo Cytundeb Rygbi Proffesiynol Undeb Rygbi Cymru cyn y dyddiad cau ym mis Mai eleni, ond fe wnaeth Caerdydd a'r Dreigiau arwyddo'r cytundeb.

'Eisoes yn gweld bod tensiynau'

Mewn cyfweliad gyda Newyddion S4C, fe ddywedodd Prif Weithredwr yr undeb, Abi Tierney: “Yr hyn rydyn ni eisiau ei wneud yw creu clybiau cynaliadwy y gall pobl eu cefnogi a chael eu cyffroi amdanynt, felly mi fydd hon yn sgwrs anodd.

“Rydyn ni wedi edrych ar hyn o bob ongl wahanol ac rydyn ni'n credu ein bod ni wedi adeiladu'r system orau, ond rydyn ni'n hapus i hynny gael ei herio gan y rhanddeiliaid.

“Rwy'n credu pan maen nhw (y cefnogwyr) yn edrych ar y data a'r dadansoddiad sy'n cefnogi hyn, mae'n anodd peidio â chefnogi'r cynnig."

Ychwanegodd Ms Tierney: "Bydd yn rhaid i mi esbonio pam a pharhau i esbonio pam rydyn ni'n gwneud hyn.

“Ac yna ni fydd yn linell syth i gyrraedd y lle dan ni eisiau cyrraedd, fe fydd rhai uchafbwyntiau ac isafbwyntiau ar hyd y ffordd.

“Rydym eisoes yn gweld bod tensiynau ac mae'n rhaid i ni reoli a pharchu'r tensiynau hynny.

“Rwy’n gofyn i bawb ymgysylltu mewn ffordd gwrtais, foesol ac adeiladol, achos dwi'n teimlo’n anhygoel o drist pan welaf rai o’r math o sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol. A dydw i ddim yn meddwl mai dyna’r gorau o rygbi Cymru.

“Felly gadewch i ni gyfeirio’r angerdd mewn ffordd gadarnhaol a chael pobl i ymgysylltu mewn ffordd adeiladol oherwydd bydd yr ateb yn well o ganlyniad."

Fe fydd cyfnod ymgynghori yn dechrau ar 1 Medi cyn argymhelliad ganol mis Hydref i fwrdd Undeb Rygbi Cymru i wneud penderfyniad terfynol yn ddiweddarach yn y mis. 

Wrth ymateb i'r cyhoeddiad brynhawn Mercher, dywedodd y Gweilch: "Rydym wedi adolygu dogfen ymgynghori Undeb Rygbi Cymru ac yn croesawu'r cyfle i gymryd rhan yn adeiladol yn y brosess hon. 

"Mae yna rai syniadau diddorol yma, gan gynnwys opsiynau â photensial go iawn, ynghyd ag eraill sydd yn dod â heriau mwy sylweddol."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.