'Dim bwriad i gartrefu ceiswyr lloches mewn adeilad ym Mangor' medd Cyngor Gwynedd
Mae Cyngor Gwynedd wedi dweud nad oes ganddynt "unrhyw fwriad" i gartrefu ceiswyr lloches na ffoaduriaid mewn adeilad ym Mangor.
Fe ddywedodd y cyngor mewn datganiad eu bod mewn trafodaethau i brynu adeilad Tŷ Glyn yn y ddinas, a hynny i "ddiwallu anghenion tai pobl Gwynedd".
Ychwanegodd y cyngor fod y datganiad mewn ymateb i "gam-wybodaeth ar wefannau cymdeithasol".
Fe ddywedodd y cyngor eu bod yn "gwerthfawrogi cwestiynau sy’n cael eu codi’n lleol a rydym wedi ymrwymo i gyfathrebu’n agored a thryloyw."
Mae'r cyngor yn atgoffa'r cyhoedd am bwysigrwydd peidio dyfalu na rhannu camsyniadau o fewn y gymuned.