Aelod o Kneecap yn gorfod aros am fis i gael gwybod a fydd achos llys yn parhau
Aelod o Kneecap yn gorfod aros am fis i gael gwybod a fydd achos llys yn parhau
Mae aelod o’r band Kneecap o Belfast a gafodd ei gyhuddo o gefnogi grŵp terfysgol, yn gorfod aros am fis arall er mwyn cael gwybod a fydd yr achos yn ei erbyn yn cael ei daflu allan o’r llys neu ddim.
Mewn gwrandawiad a barodd dros dair awr o hyd, fe wnaeth Liam Og O hAnnaidh, 27 oed, sy'n perfformio dan yr enw Mo Chara, ymddangos yn Llys Ynadon Westminster ddydd Mercher ar gyhuddiad o gefnogi grŵp terfysgol.
Mae wedi ei gyhuddo o ddatgan cefnogaeth i Hezbollah mewn gig ym mis Tachwedd y llynedd.
Daeth y cyhuddiad wedi ymchwiliad gan yr heddlu i gig y band yn yr O2 Forum yng ngogledd Llundain pan afaelodd Mr Og O hAnnaidh ym maner y mudiad.
Wrth siarad yn y llys ddydd Mercher, dywedodd tîm cyfreithiol Liam Og O hAnnaidh y dylai’r achos yn ei erbyn gael ei daflu allan o’r llys.
Dywedodd Brenda Campbell KC y dylai hynny gael ei wneud ar sail “gwall technegol” yn gysylltiedig â’r modd a gafodd yr achos ei ddwyn yn ei erbyn.
Dywedodd nad oedd y Twrnai Cyffredinol wedi rhoi caniatâd i’r achos gael ei ddwyn yn ei erbyn pan ddywedodd yr heddlu wrtho y byddai’n wynebu cyhuddiad o derfysgaeth ar 21 Mai.
Cafodd caniatâd ei roi'r diwrnod wedyn, meddai, ond roedd hynny'n golygu bod y cyhuddiad yn ei erbyn y tu allan i’r terfyn chwe mis pan ellir dwyn cyhuddiadau troseddol yn erbyn diffynnydd.
Dywedodd yr erlynydd Michael Bisgrove nad oedd angen caniatâd hyd nes ymddangosiad cyntaf y diffynnydd yn y llys, ac nad oedd angen ceisio am ganiatâd er mwyn dwyn cyhuddiad troseddol chwaith.
Cafodd yr achos ei ohirio tan 26 Medi gan y Prif Ynad Paul Goldspring. Fe fydd yn penderfynu adeg hynny a oes ganddo'r awdurdod i barhau â'r achos.
Roedd cannoedd o gefnogwyr Kneecap y tu allan i’r llys yn Llundain ddydd Mercher ac fe ddaeth nifer at ei gilydd ar hyd a lled Dulyn hefyd.
Fe wnaeth Kneecap berfformio yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd ym Mhowys yr wythnos ddiwethaf.
Yn gynharach eleni fe gyhoeddodd y triawd eu bod yn ymestyn eu taith ar draws y DU ac fe fyddant yn perfformio yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd.
Llun: Lucy North/PA Wire