Cynlluniau ffyrdd am barhau er cyhoeddiad Llywodraeth Cymru i’w hatal

13/08/2021

Cynlluniau ffyrdd am barhau er cyhoeddiad Llywodraeth Cymru i’w hatal

Mae ymchwiliad gan Newyddion S4C wedi darganfod nad oes rhaid oedi holl gynlluniau adeiladau ffyrdd newydd yng Nghymru, er i Lywodraeth Cymru gyhoeddi byddai mwyafrif yn cael eu hatal am y tro.

Yn mis Mehefin, fe gyhoeddodd Lee Waters AS, Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd, y byddai cynlluniau i adeiladu ffyrdd newydd yng Nghymru yn cael eu hoedi er mwyn cynnal adolygiad i'r prosiectau.

Wrth gyhoeddi’r newyddion, dywedodd Mr Waters fod angen “torri allyriadau carbon yn sylweddol”, a hynny drwy ystyried “pryd [y byddai] cynlluniau ffyrdd yn ateb cywir i broblemau'r dyfodol”.

Serch hynny, mae Newyddion S4C ar ddeall y gall rhai awdurdodau lleol barhau i ddatblygu cynlluniau ffyrdd, gan gynnwys yn sir Rhondda Cynon Taf.

Mae ffordd Porth Gogledd Cwm Cynon wrthi yn y broses penderfynu cynllunio. Yn ôl llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf, mae disgwyl i’r broses barhau, oni bai i’r cyngor “dderbyn cyfarwyddyd penodol gan Lywodraeth Cymru i atal y gwaith”.

Mae Newyddion S4C wedi bod yn siarad â thrigolion yr ardal i ddarganfod mwy.

‘Cynllun angenrheidiol’

I rai o drigolion Llwydcoed, ger Aberdâr, mae’r datblygiadau am ffordd osgoi 1.2km wedi cael ei groesawu o’r dechrau.

Mae disgwyl i’r ffordd gychwyn yn Aberdâr a'r bwriad fydd i weld Porth Gogledd Cwm Cynon yn cysylltu i gylchfan newydd yng Nghroes Fychan, gan sicrhau mynediad uniongyrchol i Gwm Cynon.

Image
NS4C
Mae Vicki Cotter, o Lwydcoed, wedi croesawu datblygiadau'r ffordd osgoi am resymau personol.

Mae Vicki Cotter wedi byw ger priffordd Llwydcoed am 19 mlynedd. Ychydig flynyddoedd yn ôl, fe wnaeth tad Vicki ddioddef o ddamwain car y tu allan i’w thŷ.

Yn ôl Vicki, mae’r cynlluniau i greu'r ffordd yn “angenrheidiol” er lles ei phlant a’r genhedlaeth nesaf.

Dywedodd: “Y plant sy’n gorfod byw yn yr ardal yma, yn y pentref yma, ar y rhewl yma ac oes mae hwnna’n gallu gwella gan gael rhewl newydd sy’n osgoi mynd trwy Llwydcoed – gorau byd.

“Mae’r heol yn mor, mor, mor brysur.

 “Mae rhywbeth gorfod cael ei wneud neu bydd mwy o ddamweiniau yn digwydd a falle plentyn fydd e yn y diwedd.”

‘Difrod yn debyg i Chernobyl’

Ond, mae gwrthwynebiad llwyr wedi bod gan rai ymgyrchwyr o bentrefi gerllaw, a hynny am resymau amgylcheddol. 

Mae Non Thomas o Benderyn yn aelod i’r grŵp ymgyrchu Atal Porth Gogledd Cwm Cynon.

Yn ôl Non, byddai adeiladu’r ffordd newydd yn difrodi’r ardal mewn cyfnod o “argyfwng amgylchedd.”

Image
NS4C
Mae Non Thomas o Benderyn wedi bod yn ymchgyrchu yn erbyn cynlluniau Porth Gogledd Cwm Cynon. 

Yn ôl yr ymgyrch, bydd disgwyl i waith adeiladu’r ffordd rhyddhau 45,000 o dunelli o garbon ac fe fyddai mwy o ddifrod amgylcheddol ar gynefinoedd bywyd gwyllt prin yn sgil y datblygiad.

Mae Ms Thomas yn pryderu y byddai’r ffordd newydd yn tarfu ar safleoedd naturiol a fywyd gwyllt sydd o bwys yn yr ardal.  

“‘Yn ni di gweld yn barod ble maen nhw yn gwellhau’r heol Pennau’r Cymoedd, gymaint o goed sydd wedi cael ei torri lawr, ac mae pobl wedi cymharu e gyda Chernobyl,” dywedodd wrth Newyddion S4C.

“Dychmygwch hwn fel Chernobyl, a ‘na beth sydd mynd i ddigwydd os ‘yn ni caniatáu i’r heol hyn mynd ymlaen.”

‘Dim i atal cynlluniau’r ffordd’

Mae Aelod Senedd Llafur dros Gwm Cynon, Vikki Howells, yn sefyll ochr yn ochr â rhai o drigolion Llwydcoed.

Fe gadarnhaodd Ms Howells fod y cynlluniau i adeiladu Porth Gogledd Cwm Cynon yn parhau, gan ddadlau ei fod yn “gynllun hanfodol” i bobl yn Llwydcoed, Aberdâr, a Phenywaun.

Yn ôl yr Aelod Seneddol, does dim i atal cynlluniau'r ffordd rhag parhau drwy’r broses cynllunio, ac mae disgwyl i bwyllgor cynllunio drafod ei ddyfodol ymhen ychydig o fisoedd.

Dywedodd Ms Howells: “Rwy’n hyderus ni fydd [yr Adolygiad Ffyrdd] yn effeithio ar adeiladwaith Porth Gogledd Cwm Cynon oherwydd mai disgwyl i waith adeiladu cychwyn yn 2023.

“Cyhyd a bod Cyngor Rhondda Cynon Taf yn prosesu’r cynlluniau nawr, fel yr ydynt yn bwriadu gwneud, pe bai i’w cael ei gymeradwyo – mi fydd hynny’n cynllun fydd yn barod i’w mynd.”

‘Blaenoriaethu’r fro Llafur’

Ond, yn ôl un o aelodau blaenllaw'r Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar AS, mae’r hyn sydd yn digwydd yn enghraifft o “wleidydda camarweiniol” gan y Llywodraeth ym Mae Caerdydd.

Dywedodd yr Aelod Seneddol dros Ogledd Clwyd: “Mae’n glir bod ‘na pork-barrel politics yng Nghymru.

“Nad yw Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu unrhyw brosiect yn ogledd o Ferthyr Tudful ar hyn o bryd, ac mae ‘na lawer o bobl dros ogledd Cymru yn flin ac yn siomedig gyda gweinidogion Llafur sydd wedi bod yn aneglur gyda’u cynlluniau.”

Image
NS4C
Yn ôl Darren Millar AS, mae'r gallu i barhau â'r cynlluniau yn Rhondda Cynon Taf yn enghraifft o "wleidydda camarweiniol". 

Fe ofynnodd Newyddion S4C am gadarnhad gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â’r bwriad i barhau gyda chynlluniau ffyrdd. Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth y bydd adroddiad yn amlinellu’r cynlluniau a fydd yn cael eu heffeithio gan yr Adolygiad Ffyrdd.

Ychwanegodd: “Ar ôl i'r Cadeirydd a'r panel Adolygiad Ffyrdd gael eu penodi, byddant yn darparu adroddiad cychwynnol yn nodi pa gynlluniau sydd o fewn a'r tu allan i gwmpas yr adolygiad.

“Wrth gynnal yr adolygiad hwn, byddwn yn gallu ail-ffocysu ein buddsoddiad am drafnidiaeth ym mhob rhan o Gymru i gefnogi mwy o bobl i wneud dewisiadau gwyrdd ac iach wrth iddyn nhw deithio.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.