Anghydfod cerddorion Opera Cenedlaethol Cymru 'ar ben'
Mae’r anghydfod rhwng Opera Cenedlaethol Cymru a cherddorion y sefydliad ar ben meddai undeb yn dilyn cytundeb newydd dros dâl.
Dywedodd yr undeb Equity ddydd Mercher eu bod wedi cynnal trafodaethau llwyddiannus gydag Opera Cenedlaethol Cymru (OCC) ar ran eu haelodau.
Fel rhan o’r cytundeb, fe fydd aelodau yn derbyn contract llawn amser ar gyflog cystadleuol, meddai'r undeb.
Mae’n “gytundeb sydd wedi ei chroesawu gan fwyafrif helaeth aelodau,” yn ôl llefarydd ar ran Equity.
Daw’r cytundeb ar ôl i 93% o aelodau Equity sy'n rhan o’r cwmni bleidleisio o blaid gweithredu diwydiannol ym Medi 2024, ar ôl i’r cwmni gynnig cytundebau rhan amser, gyda thoriad cyflog o 15%.
O fis Medi fe wnaeth aelodau wisgo crysau-t yn ystod perfformiadau, gwneud areithiau yn dilyn perfformiadau a rhannu pamffledi gyda chyuleidfaoedd.
Mae Newyddion S4C wedi holi Opera Cenedlaethol Cymru (OCC) am ymateb.
'Nid ateb cyflym'
Dywedodd Paul W Fleming, ysgrifennydd cyffredinol Equity, bod y cytundebau newydd yn cynnig “diogelwch hirdymor” i gerddorion.
“Mae hon wedi bod yn broses anodd a heriol i’n haelodau yn WNO, ac rydym yn talu teyrnged i’w hundod a’u penderfyniad drwyddi draw,” meddai.
“Mae’n bwysig cydnabod ymdrechion ein Dirprwyon (cynrychiolwyr) Equity a’r tîm negodi ehangach, a wnaeth ymladd yn ddiflino i sicrhau’r canlyniad gorau posibl, wrth wynebu’r bygythiad gwirioneddol iawn i’w diogelwch swyddi eu hunain.
“Nid ateb cyflym yw’r cytundeb newydd — mae’n ddiogelwch hirdymor i gôr llawn amser WNO, gan amddiffyn yr ensemble artistig y mae’r cwmni wedi addo ei amddiffyn.
“Gyda’r contract hwn ar waith, ni fyddwn yn cynnal trafodaethau mawr pellach na thoriadau i’r niferoedd craidd yn y dyfodol rhagweladwy.”
'Cydweithio'
Wrth ymateb i'r newyddion, dywedodd Cyd-Gyfarwyddwr Cyffredinol Prif Weithredwyr OCC, Adele Thomas a Sarah Crabtree mewn datganiad ar y cyd: "Rydym yn croesawu penderfyniad Corws WNO i dderbyn y cytundeb newydd gyda diolchgarwch.
"Rydym yn gwybod pa mor galed y mae pawb dan sylw wedi gweithio dwy gydol y broses ar draws y sefydliad, ac rydym yn diolch i Equity am eu cefnogaeth i ddod â'r anghydfod yma i ben.
"Mae'r broses hon wedi bod yn un emosiynol a chymhleth iawn i'r Corws ac i'r Cwmni yn ei gyfarwydd.
"Rydym yn cydnabod yr ymroddiad di-baid y mae ein cydweithwyr wedi dangos wrth lunio'r cytundeb hwn a'r aberthau sydd wedi cael eu gwneud.
"Bydd y cytundeb hwn bellach yn galluogi pawb ar draws y Cwmni i symud ymlaen gyda'n gilydd er mwyn parhau i ymladd dros ddyfodol WNO.
"Rydym yn gwbl ymwybodol, er bod tirwedd cyllido'r celfyddydau yn parhau yn ei hunfan, a'r hinsawdd ariannol ehangach yn parhau i fod yn heriol, bod gennym ni fel sector frwydr faith o'n blaenau i gadw opera yng nghanol bywyd diwylliannol. Credwn fod hon yn frwydr sy'n werth ei chynnal."