Gweithwyr cwmni Airbus i fynd ar streic fis nesaf
Mae gweithwyr cwmni awyrennau Airbus ym Mrychdyn, Sir y Fflint, yn bwriadu cynnal sawl streic mewn anghydfod dros gyflogau.
Dywedodd undeb Unite y bydd tua 3,000 o'i aelodau mewn dau safle yn y DU yn streicio am 10 diwrnod ym mis Medi ar ôl iddynt bleidleisio o blaid gweithredu diwydiannol.
Bydd gweithwyr y cwmni yn Filton, ger Bryste hefyd yn mynd ar streic.
Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol Unite, Sharon Graham: “Mae Airbus yn cynhyrchu biliynau mewn elw; mae gweithwyr yn haeddu bargen deg. Mae ein haelodau'n ceisio tegwch nid gofyn am ffafr.
“Mae gan weithwyr Airbus gefnogaeth lwyr eu hundeb yn yr anghydfod hwn.”
Rhybuddiodd Unite y bydd y streiciau'n effeithio ar gynhyrchu adenydd ar gyfer cynlluniau adeiladu awyrennau masnachol a milwrol Airbus.
Dywedodd Sue Partridge, rheolwr awyrennau masnachol Airbus UK: “Rydym wedi gwneud cynnig cyflog cystadleuol a theg yn 2025 sy'n adeiladu ar seiliau cryf cynnydd cyflog sy'n gyfanswm o dros 20% yn y tair blynedd diwethaf a thaliad bonws o £2,644 a wnaed ym mis Ebrill eleni.
“Ein blaenoriaeth o hyd yw dod o hyd i ddatrysiad ynghyd â’r undeb llafur sy’n sicrhau cystadleurwydd a llwyddiant hirdymor Airbus yn y DU.”