Undeb Rygbi Cymru yn bwriadu cynnig cwtogi nifer y rhanbarthau i ddau
Undeb Rygbi Cymru yn bwriadu cynnig cwtogi nifer y rhanbarthau i ddau
Fe fydd Undeb Rygbi Cymru yn cyhoeddi eu bwriad i gwtogi nifer y rhanbarthau o bedwar i ddau.
Fe gadarnhaodd yr undeb ym mis Gorffennaf eu bod yn ystyried cwtogi nifer y rhanbarthau rygbi proffesiynol yng Nghymru i ddau neu dri.
Mae Newyddion S4C ar ddeall mai cwtogi'r nifer i ddau ranbarth - gydag un tîm dynion ac un i'r menywod - sy'n cael ei ffafrio erbyn hyn.
Ar hyn o bryd, y pedwar rhanbarth ydy Rygbi Caerdydd, Y Dreigiau, Scarlets a Gweilch.
Os yw'r cynlluniau yn dwyn ffrwyth fe fyddai gan y ddau dîm dynion garfan o 50 chwaraewr yr un a chyllidebau rygbi o £7.8m, o dan y cynllun a gyflwynwyd gan yr undeb.
Mae disgwyl i ymgynghoriad chwe wythnos ar y newid ddechrau'r wythnos hon. Bydd Undeb Rygbi Cymru yn dechrau trafodaethau gyda'r pedwar clwb proffesiynol presennol ynghyd â grwpiau cefnogwyr pob clwb, panel o gefnogwyr, a Chymdeithas Chwaraewyr Rygbi Cymru.
Nid yw'n glir eto a fyddai'r ddau ranbarth sy'n goroesi yn unrhyw un o'r pedwar presennol.
Mae Undeb Rygbi Cymru yn gobeithio cael y strwythur newydd ar gyfer y gêm broffesiynol yn ei le erbyn tymor 2027/28 fan bellaf.
Mae'r cyfarwyddwr rygbi newydd Dave Reddin, y prif weithredwr Abi Tierney a'r cadeirydd Richard Collier-Keywood wedi bod yn rhan o'r cynllun.
Cythryblus
Daw'r cynlluniau i ailstrwythuro wrth i'r Scarlets a'r Gweilch gyhoeddi buddsoddiad a chynlluniau newydd.
Ddechrau'r mis cyhoeddwyd bod y Scarlets wedi sicrhau buddsoddiad sylweddol gan gwmni o America, a fydd yn prynu cyfran gwerth 55% o’r clwb.
Fel rhan o “bartneriaeth strategol hanesyddol”, mae’r cwmni asiantaeth asedau moethus o America, House of Luxury LLC (HOL) wedi datgan ei bwriad i ddod yn brif gyfranddaliwr ar y clwb a chymryd rheolaeth ohono.
Yn y cyfamser, mae'r Gweilch wedi cyhoeddi eu bwriad i adnewyddu stadiwm San Helen yn Abertawe er mwyn chwarae yno.
Mae wedi bod yn gyfnod cythryblus i Rygbi Caerdydd, a aeth i ddwylo'r gweinyddwyr ym mis Ebrill. Maen nhw ar hyn o bryd dan berchnogaeth yr undeb.
Ym mis Mai, fe wnaeth dau o’r rhanbarthau, Scarlets a Gweilch, wrthod arwyddo Cytundeb Rygbi Proffesiynol Undeb Rygbi Cymru cyn y dyddiad cau ym mis Mai eleni.
Fe fyddai'r cytundeb, oedd yn cynnwys cynnydd mewn cyllideb o hyd at £6.5m o'i gymharu â'r £4.5m presennol, wedi parhau nes 2029.
Fe wnaeth Caerdydd a'r Dreigiau arwyddo'r cytundeb.
Ond dywedodd y Gweilch a’r Scarlets eu bod nhw “wedi gofyn i Undeb Rygbi Cymru am sicrwydd ac eglurder na fydd eu perchnogaeth o Gaerdydd o fantais i Gaerdydd ac yn anfantais i'r clybiau annibynnol”.