Bethesda: Arestio tri wedi i gar gael ei yrru at unigolyn

bethesda.jpg

Mae tri o bobl wedi cael eu harestio wedi i gar gael ei yrru at unigolyn ym Methesda yng Ngwynedd brynhawn Llun. 

Dywedodd Heddlu'r Gogledd mai'r gred yw fod ffrae wedi digwydd rhwng pedwar o bobl ar Stryd Fawr y dref am tua 13:00 ddydd Llun. 

Ychydig yn ddiweddarach, fe gafodd car ei yrru tuag at un o'r dynion oedd yn rhan o'r ffrae.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw ac fe gafodd un dyn ei gludo i'r ysbyty. Mae bellach wedi ei ryddhau. 

Mae dyn 19 oed, dyn 33 oed a dynes 35 oed wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad, ac maent yn parhau yn y ddalfa. 

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Chris Burrow: "Rydym yn ymwybodol o ddeunydd yn cael ei rannu ar-lein o'r digwyddiad hwn, a hoffwn annog aelodau o'r cyhoedd i beidio â rhannu'r fideos ymhellach. 

"Mae yna bresenoldeb heddlu cynyddol yn yr ardal heddiw tra'r oeddem ni'n ceisio dod o hyd i'r person sydd bellach wedi cael ei arestio. 

"Fe fydd swyddogion yn parhau yn yr ardal i dawelu meddyliau'r cyhoedd."

Mae'r heddlu yn annog unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod C128574.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.