Dyn 36 oed wedi marw ar ôl disgyn o fynydd Crib Goch
Mae dyn 36 oed wedi marw ar ôl disgyn o fynydd Crib Goch yn Eryri ddydd Sadwrn.
Fe wnaeth y gwasanaethau brys, gan gynnwys Heddlu Gogledd Cymru a Thîm Achub Mynydd Llanberis, ymateb i adroddiadau am ddyn yn cwympo o'r grib tua 11:30 y diwrnod hwnnw.
Cafodd y dyn ei gludo o'r mynydd mewn hofrennydd ond roedd wedi marw yn y fan a'r lle.
Nid yw wedi cael ei adnabod yn ffurfiol hyd yma, ond mae perthnasau agosaf y dyn wedi cael gwybod am ei farwolaeth, ac mae'r crwner wedi cael gwybod am y digwyddiad hefyd.
Dywedodd yr Arolygydd Jamie Owens o Heddlu'r Gogledd: "Mae fy nghydymdeimlad dwysaf yn parhau gyda theulu'r dyn yn yr amser anodd hwn.
“Mae ein hymchwiliad i amgylchiadau'r digwyddiad trasig hwn yn parhau.
“Rydym yn apelio at unrhyw un a allai fod wedi gweld y cwymp i gysylltu â'r heddlu trwy ein gwefan neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu rhif cyfeirnod 25000678802.”
Llun: Diliff/Wikimedia