Caerdydd: Darganfod planhigion canabis gwerth £260,000 yn tyfu ger meithrinfa

Darganfod canabis yng Nghaerdydd

Mae dau berson wedi cael eu cyhuddo ar ôl i blanhigion canabis gwerth £260,000 gael eu darganfod yn tyfu ger meithrinfa yng Nghaerdydd.

Daeth swyddogion Heddlu De Cymru o hyd i'r planhigion yn tyfu ger y feithrinfa ddydd Sul.

Aeth yr heddlu i chwilio mewn uned ar ystâd ddiwydiannol Seawall Court ger Tremorfa ar ôl i rieni a phobl leol adrodd eu bod yn gallu gwynto arogl cryf y cyffur yn yr ardal.

Wrth fynd mewn i'r uned daeth swyddogion o hyd i 604 o blanhigion oedd â werth £260,000.

Cafodd Anxhel Cepele, 23 oed, a Anduel Demo, 26 oed, eu harestio ac mae'r ddau bellach wedi eu cyhuddo o dyfu canabis.

Fe fydd y ddau yn ymddangos yn y llys ym mis Medi.

Dywedodd y Rhingyll Bleddyn Jones o Heddlu'r De: “Fel tîm plismona lleol, ein rôl ni yw gwrando ar bryderon y gymuned, a gweithredu arnynt.

“Diolch i wyliadwriaeth pobl yn yr ardal, nid yw’r ffatri ganabis hon ar waith mwyach, ac rwy’n gwybod y bydd pobl yn yr ardal yn falch iawn o glywed hynny."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.