'O ddifri': Perfformiad ola' Dafydd Iwan a’r Band nos Sadwrn
'O ddifri': Perfformiad ola' Dafydd Iwan a’r Band nos Sadwrn
Nos Sadwrn, fe fydd 'Dafydd Iwan a’r Band' yn perfformio am y tro olaf a hynny yng Ngŵyl Llanuwchllyn.
Mewn cyfweliad gyda rhaglen Newyddion S4C fe ddywedodd y canwr fod ei ymddeoliad bellach yn “jôc genedlaethol” am ei fod o wedi sôn am roi’r gorau iddi yn y gorffennol.
Ond mae’n dweud yn sicr mai dyma fydd y bennod olaf i'r band.
“Ydw dwi wedi sôn o’r blaen,” meddai. “Arna i mae’r bai fod y peth yn rhywfaith o jôc genedlaethol.
“Ond yr adeg honno mi o’n i’n bwriadau o ddifri i roi’r gorau iddi er mwyn canolbwyntio ar wleidyddiaeth, ond diolch byth nath hynny ddim gweithio!
“Mae’r canu yn iawn, ond mae’n mynd yn anodd weithiau i drefnu pethau a chyrraedd adref yn hwyr y nos neu’n gynnar yn y bore.
“Felly o ddifri - mi fyddai yn gorffen efo’r band nos Sadwrn.”
Ond fe bwysleisiodd Dafydd Iwan na fydd yn rhoi’r gorau i ganu’n gyfan gwbl.
“Does 'na’m pwrpas dweud dwi’m yn mynd i ganu eto, achos fyddai’n cael galwadau o hyd i fynd i sgwrs a chân i ryw gymdeithas fan hyn a fan draw a dwi wrth fy modd yn gwneud hynny,” meddai.
“Ond mi fydd y gigs mawr yn mynd.”
‘Ehangu’r gynulleidfa’
Dywedodd ei fod yn anodd dewis un uchafbwynt o’i holl flynyddoedd yn canu, a bod yn rhai yn hytrach drafod “cyfnodau”.
“Roedd y 90au yn gyffrous iawn, iawn i ni,” meddai.
“Roedd hi wedi bod yn gyfnod llwm yn ystod yr 80au ac mi gychwynnais i efo’r band yn 1988 ym Mhafiliwn Corwen.
“O’dd y Cnapan yn y 90au. Ambell noson yn y ’Steddfod ac yn y Sioe yn Llanelwedd.”
Cyfnod euraid arall i’r canwr oedd cyn Cwpan y Byd 2022 pan ddaeth ei gân Yma o Hyd i sylw cynulleidfa newydd.
Fe gafodd y gân ei dewis fel cân swyddogol Cymru yn y gystadleuaeth ac roedd cyfle i Dafydd Iwan berfformio yn y gemau rhagbrofol ac yn Qatar.
“Mae’r hyn a ddigwyddodd efo Cwpan y Byd yn 2022 wedi ehangu’r gynulleidfa ac wedi dod a Cymru di-Gymraeg i mewn,” meddai.
“Mae o wedi gwneud gwahaniaeth.
“Ac mae’r hyn sydd wedi digwydd o safbwynt tynnu'r di-Gymraeg i mewn i’r teulu Cymraeg wedi bod yn wych iawn.”
‘Canu yn y bath’
Mae’r sylw ddaeth yn sgil y pêl-droed i’r gân ‘Yma o Hyd’ yn ei lawenhau, a gan chwerthin mae Dafydd Iwan yn dweud fod “pobol yn dweud hyn wrtha i bron bob dydd!”
“Da ni yma o hyd - da chi yma o hyd!” meddai.
Wrth edrych yn ôl ar berfformio o flaen cynulleidfa fawr dywedodd: “Mae’n brofiad gwefreiddiol ac mi fyddai yn ei golli fo.
“Mi fyddai’n colli’r adrenalin a’r hwyl. Ond mi allai dal ganu yn y bath!”