Carcharu adeiladwr o Fôn am dargedu cwsmeriaid 'bregus' ar yr ynys

Llys Caernarfon

Mae adeiladwr o Fôn a oedd wedi targedu cwsmeriaid "bregus" ar yr ynys wedi cael ei garcharu am flwyddyn a’i orchymyn i dalu £21,300 mewn iawndal.

Fe wnaeth Paul Evans, 51, o Lain Feurig yng Ngwalchmai, hefyd dderbyn gorchymyn ymddygiad troseddol am gyfnod amhenodol.

Dywedodd y Barnwr Timothy Petts yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Mawrth fod Evans yn "fasnachwr twyllodrus" a oedd wedi targedu "unigolion bregus". 

Fe wnaeth un o'i ddioddefwyr dalu £24,000 am waith a oedd wedi costio £3,000 i’w gywiro.

Roedd Evans hefyd wedi bod yn poenydio dyn arall ar ôl i'r adran safonau masnach ymyrryd yn ei achos.

"Mae’r hanes ohonoch chi’n targedu unigolion bregus yn haeddu dedfryd o garchar ar unwaith," meddai'r Barnwr Petts.

Fe wnaeth Evans gyfaddef iddo gymryd rhan mewn busnes gwelliannau cartref twyllodrus ac ymwneud ag arfer masnachol ymosodol.

Dywedodd Josh Gorst ar ran yr amddiffyniad fod Evans yn edifar a fod ganddo £5,000 i’w dalu i’r dioddefwyr. 

Mae Evans hefyd bellach wedi rhoi'r gorau i yfed alcohol, ychwanegodd.

 
  
 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.