Sir Conwy: Ysgol i gau'n rhannol wrth i athrawon fynd ar streic
Fe fydd Ysgol Emrys ap Iwan yn Abergele yn cau'n rhannol ddydd Llun wrth i athrawon yno fynd ar streic.
Mae undeb NASUWT yn dweud bod eu haelodau sydd yn gweithio yn yr ysgol yn bwriadu gwneud hynny am eu bod yn wynebu “bwlio” parhaus yn yr ysgol.
Mewn llythyr i rieni ddydd Gwener, fe ddywedodd yr ysgol y byddai ar gau i ddisgyblion blwyddyn 10 a'r chweched ddosbarth ddydd Llun.
Mae pennaeth yr ysgol, Matt Wildsmith, wedi dweud ei fod yn “siomedig iawn” gyda’r penderfyniad a bod yr athrawon o’r undeb “wedi gwrthod oedi'r streic”.
Mewn datganiad dywedodd undeb NASUWT Cymru bod staff wedi eu cosbi gan arweinwyr yr ysgol am godi pryderon yn sgil ailstrwythuro yno.
Dywedodd Matt Wrack, Ysgrifennydd Cyffredinol yr undeb mai’r “cyfan” oedd athrawon Ysgol Emrys ap Iwan eisiau ei wneud “yw addysgu”.
Dywedodd “nad oedd yn amgylchedd gwaith diogel i’n haelodau”.
“Mae uwch arweinwyr wedi creu problemau o fewn yr ysgol gyda’r potensial i effeithio ar lesiant staff a disgyblion, ac mae’r ffaith bod ein hathrawon yn codi eu lleisiau’n gyson i dynnu sylw at y problemau hyn – er gwaethaf y bwlio maen nhw’n ei wynebu – yn dyst i’w dygnwch a’u gofal am yr ysgol,” meddai.
'Cosbi, erlid a microreoli'
Dywedodd Neil Butler, Swyddog Cenedlaethol NASUWT yng Nghymru, fod y berthynas rhwng athrawon ac arweinwyr wedi "chwalu" bron yn gyfan gwbl.
“Mae arweinwyr da yn meithrin hyder eu staff," meddai. "Nid ydynt yn adeiladu strwythurau sy’n cosbi, yn erlid ac yn microreoli.
“Mae angen dybryd yn Ysgol Emrys ap Iwan am arweinyddiaeth dda; nid yw’r athrawon, staff yr ysgol, disgyblion a’r gymuned leol yn haeddu dim llai.
“Ond ar hyn o bryd, mae’r arweinyddiaeth honno’n brin iawn.”
'Heriol'
Dywedodd y pennaeth Matt Wildsmith ei fod wedi gorfod ailstrwythuro rolau a chyfrifoldebau oherwydd pwysau ariannol.
“Rydym yn cydnabod bod rhai aelodau o staff wedi gweld y newidiadau diweddar yn heriol ac y gallai hyn fod wedi cael effaith,” meddai.
“Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda nhw mewn ffordd gefnogol wrth ymaddasu i’r newidiadau hyn.
“Rydym yn parchu hawl staff i streicio ac yn parhau’n ymrwymedig i ddatrys unrhyw bryderon sydd heb eu datrys o hyd.”
Mewn datganiad dywedodd Cyngor Conwy: “Rydym wedi derbyn hysbysiad o weithredu diwydiannol gan NASUWT.
“Mae gweithredu diwydiannol wedi’i drefnu ar gyfer dydd Llun, 9 Mawrth 2026.”