Awyren fomio Americanaidd yn glanio yn y DU ar ddiwedd wythnos gyntaf rhyfel Iran

Y bomiwr

Mae awyren fomio Americanaidd anferth wedi glanio ym Mhrydain wrth i’r rhyfel yn Iran gyrraedd ei ail wythnos.

Glaniodd y B-1 Lancer, sy’n 146 troedfedd o hyd, yn RAF Fairford yng Nghaerloyw nos Wener ar ôl i Syr Keir Starmer roi caniatâd ar gyfer gweithredu Americanaidd “amddiffynnol” yn y Dwyrain Canol.

Daw wrth i’r Unol Daleithiau rybuddio y byddai “cynnydd sydyn” mewn ymosodiadau ar Iran.

Mae cwestiynau’n parhau ynghylch rôl y DU yn y gwrthdaro yn y dyfodol, gyda’r Ysgrifennydd Tramor David Lammy yn awgrymu y gallai awyrennau’r Llu Awyr Brenhinol ymosod ar safleoedd taflegrau Iran sy’n cael eu defnyddio i ymosod ar fuddiannau Prydeinig yn y Dwyrain Canol.

Daw hyn ar ôl i Brydain gael ei beirniadu gan gynghreiriaid dros ei hymateb i’r argyfwng, ar ôl i ganolfan Brydeinig gael ei tharo gan ddrôn yn Cyprus yn gynharach yr wythnos hon.

Mae disgwyl i arweinydd y Torïaid, Kemi Badenoch, ailadrodd ei beirniadaeth o ymateb y DU i’r rhyfel mewn araith ddydd Sadwrn, gan ddweud bod “cynghreiriaid yn teimlo na allan nhw ddibynnu arnom mwyach”.

Serch hynny mae arolygon barn wedi awgrymu bod pobl Prydain ar y cyfan eisiau aros allan o’r rhyfel, gan wrthwynebu ymosod ar Iran o 49% i 28% yn ôl arolwg YouGov.

Mae’r Prif Weinidog wedi amddiffyn ei benderfyniad i gadw draw, gan awgrymu y gallai ymosod ar Iran fod yn anghyfreithlon dan gyfraith ryngwladol a dadlau bod rhaid i’r llywodraeth “beidio gor-ymateb”.

‘Ymddiheuro’

Yn y cyfamser mae Gwarchodlu Chwyldroadol Iran (IRGC) wedi dweud eu bod wedi targedu tancer olew yn y gwlff a oedd yn mynd trwy Gulfor Hormuz.

Mewn datganiad a rannwyd ar Telegram, dywedodd y corff bod tancer olew o'r enw ‘Prima’ wedi ei daro gan ddrôn ar ôl "anwybyddu rhybuddion dro ar ôl tro" ynghylch "gwaharddiad traffig" trwy'r culfor.

Mae'r IRGC wedi dweud na fyddan nhw’n caniatáu i danceri olew a llongau masnachol "sydd wedi'u cynghreirio â gwledydd gelyniaethus" fynd trwy'r culfor.

Mae tua un rhan o bump o olew a nwy'r byd yn mynd drwy’r culfor, gan fygwth codi prisiau ynni ledled y byd.

Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau Donald Trump wedi dweud y gallai llynges yr Unol Daleithiau hebrwng llongau trwy'r darn "os oes angen".

Ddydd Sadwrn fe wnaeth Arlywydd Iran, Masoud Pezeshkian, ddarlledu neges fideo ar deledu gwladol Iran.

Dywedodd ei fod yn “angenrheidiol ymddiheuro i wledydd cyfagos” am ymosod arnyn nhw.

“Nid ydym yn bwriadu goresgyn gwledydd cyfagos,” meddai, a galwodd am gydweithrediad rhanbarthol i “sefydlu heddwch a thawelwch”.

“Rhaid i’r rhai sy’n ystyried manteisio ar yr eiliad hon i ymosod ar Iran beidio â dod yn bypedau i imperialaeth,” meddai’r arlywydd, gan ychwanegu nad yw cefnogi Israel na’r Unol Daleithiau “yn llwybr tuag at anrhydedd a rhyddid”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.