Cytundebau gwaith Zip World yn 'tanseilio cymunedau Cymraeg eu hiaith'
Mae adroddiad newydd yn codi cwestiynau am amodau gwaith a chyflogaeth cwmni atyniadau twristiaeth Zip World, eu defnydd o gontractau dim oriau ('zero hours contracts'), a'r effaith y mae hyn yn ei gael ar yr iaith Gymraeg.
Mae'r adroddiad gan Foundational Economy Research Limited yn nodi bod canran uchel o weithwyr y cwmni mewn dau safle yng Ngwynedd yn cael eu cyflogi ar sail cytundebau 'dim oriau' - lle nad oes unrhyw sicrwydd o oriau gan y gweithwyr ar ddechrau cyfnod o waith.
Mae hefyd yn dadlau fod arferion cyflogaeth y cwmni yn 'tanseilio' cymunedau Cymraeg eu hiaith yn economaidd.
Mae Zip World yn rhedeg 29 o atyniadau mewn saith o safleoedd yng Nghymru a Lloegr.
Yn gynharach eleni fe dderbyniodd y cwmni dros £6.2m mewn arian cyfatebol o'r pwrs cyhoeddus ar gyfer 'Prosiect Anturiaethau Cyfrifol Trawsnewidiol Zip World'.
Nod y prosiect hwn yw denu ymwelwyr ychwanegol mewn ffordd sy'n "amgylcheddol gynaliadwy ac yn ystyriol i gymunedau lleol trwy wneud y mwyaf o'r buddion cymdeithasol, economaidd a diwylliannol i'r rhanbarth."
Mae Newyddion S4C wedi gofyn am ymateb y cwmni i'r adroddiad.
Penrhyn a Llechwedd
Edrychodd yr adroddiad ar y sefyllfa yn safleoedd y cwmni yn Llechwedd, Blaenau Ffestiniog, a safle'r Penrhyn ger Bethesda - sef dwy ardal chwarelyddol gyda'u hanes o anghydfod diwydiannol dros amodau gweithwyr yn y gorffennol.
Dywed yr adroddiad am y ddau safle: "Mae'r safleoedd yn cael eu rhedeg yn bennaf gan weithwyr dim oriau nad oes sicrwydd o waith mewn unrhyw wythnos.
"Yn y tymor prysur, mae 90% o weithwyr Llechwedd a 93% o weithwyr y Penrhyn yn gweithio cytundebau dim oriau; yn y tymor tawel mae 85% o weithwyr Llechwedd ac 86% o weithwyr Penrhyn yn gweithio cytundebau dim oriau.
"Gall cyfran sylweddol o weithwyr dim oriau yn y tymor prysur ddisgwyl cael eu gollwng yn y tymor tawel a dioddef seibiant gaeaf gorfodol.
"Yn Llechwedd erbyn mis Tachwedd 2024 roedd y cwmni'n cyflogi tua dwy ran o dair o'r 154 a gyflogodd ym mis Gorffennaf; ym Mhenrhyn ym mis Tachwedd 2024 roedd y cwmni'n cyflogi llai na hanner y 260 a gyflogodd ym mis Gorffennaf."
Y Gymraeg
Ychwanegodd yr adroddiad fod y fath hyblygrwydd wrth gyflogi staff yn lleol yn tanseilio'r cymunedau Cymraeg eu hiaith:
"Mae cyflogau ac amodau gweddus yn hanfodol os yw cymunedau am barhau i fod yn hyfyw. Nid yw cyflogwyr mawr sy'n cynnig contractau dim oriau yn annog pobl leol i aros ond yn eu cymell i symud i ffwrdd i chwilio am gyfleoedd gwell.
"Yn nyffrynnoedd Ffestiniog ac Ogwen mae'r iaith Gymraeg yn rhan ganolog o hunaniaeth gymunedol. Gall cyflogwyr preifat, trwy gynnig cyflogau ac amodau gweddus, chwarae rhan allweddol yma wrth sicrhau defnydd bob dydd a bywiogrwydd hirdymor yr iaith.
"Mae hyblygrwydd y gweithlu yn bolisi gwrth-Gymraeg cyn belled ag y mae'n tanseilio ein cymunedau yn economaidd."
Ymateb Llywodraeth Cymru
Dywedodd Llywodraeth Cymru, "Er bod cyfraith cyflogaeth yn parhau i fod yn fater a gadwyd yn ôl, nid ydym yn cefnogi'r defnydd annheg o gontractau dim oriau ac eisiau gweld cyflogwyr yn cynnig oriau wedi eu gwarantu lle bo modd.
"Rydym yn croesawu diwygiadau arfaethedig Llywodraeth y DU yn y Bil Hawliau Cyflogaeth, gan gynnwys mesurau a fyddai'n ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr gynnig oriau wedi eu gwarantu i weithwyr cymwys."
Nid yw Newyddion S4C wedi derbyn ymateb gan Zip World hyd yma.
Prif lun: Zip World