Ceredigion: Gyrrwr beic modur mewn cyflwr difrifol wedi gwrthdrawiad

Aberaeron

Mae gyrrwr beic modur mewn cyflwr difrifol ar ôl cael ei gludo i’r ysbyty mewn hofrennydd wedi gwrthdrawiad rhwng Aberaeron a Llanrhystud yng Ngheredigion ddydd Sul.

Dywedodd Heddlu Dyfed Powys bod y gwrthdrawiad wedi digwydd rhwng dau feic modur ar yr A487 am tua 12:20 ddydd Sul.

Mae gyrrwr un o’r beiciau modur yn parhau mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty. Fe gafodd yr ail yrrwr beic modur ei gludo i’r ysbyty mewn ambiwlans ac mae bellach wedi cael gadael.

Fe gafodd y ffordd ei chau am rai oriau tra bod y gwasanaethau brys yn y fan a’r lle, a’r cerbydau yn cael eu symud.

Fe wnaeth y ffordd ail-agor am 15:30 yr un diwrnod.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.