Rhwydwaith Dynion Cymru: Angen 'lle diogel' i ddynion drafod iechyd meddwl
Mae sylfaenydd grŵp newydd 'Rhwydwaith Dynion Cymru' yn dweud bod angen "lle diogel" i ddynion drafod iechyd meddwl.
Mae Bedwyr Evans o Sir Gaerfyrddin wedi creu'r grŵp ar Facebook, gyda'r nod o gynnig gofod i ddynion allu trafod "bob dim."
Wythnos ers cael ei greu mae yna bellach dros 100 o aelodau yn rhan o'r grŵp.
Penderfynodd Bedwyr greu'r grŵp ar ôl iddo ef a'i gyd-weithwyr drafod grŵp 'Rhwydwaith Menywod Cymru' yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam.
"Amser y 'Steddfod yn amlwg, mae pawb yn siarad 'biti Rhywdwaith Menywod Cymru," meddai Bedwyr wrth Newyddion S4C.
"O’n i’n siarad gyda pobl yn gwaith ac roeddwn ni’n gofyn ‘pam nad oes rhwydwaith dynion Cymru’? A o’dd merched gwaith yn gweud i fi neud e.
"A nes i neud e. O’n i’n meddwl ambiti neud un tua mis yn ôl ond byth wedi neud e. Nes i didm meddwl lot am y peth."
'Pwysig'
Ers i Rwydwaith Dynion Cymru cael ei greu mae sawl post wedi cael eu rhannu, yn trafod amryw bynciau o chwaraeon, i iechyd meddwl ac arwyddion iaith Gymraeg.
Un peth y mae Bedwyr wedi sylwi arno ers creu'r grŵp yw bod angen lle diogel i ddynion allu trafod iechyd meddwl.
Yn 2023/24 roedd dynion yn cyfrif am 76% (265 allan o 350) o'r hunanladdiadau yng Nghymru, yn ôl y Gwasanaeth Iechyd.
Mae Bedwyr wedi profi colled o ganlyniad i iechyd meddwl, ac felly mae'n pwysleisio'r angen i ddynion siarad am eu teimladau.
"Fi ‘di gweld yn barod, ma pobl yn gallu siarad am amrywiol pethau," meddai.
"Yn barod mae erthygl wedi rhannu am iechyd meddwl dynion a bod angen siarad mwy.
"A’r mwya' fi’n siarad amdano fe y mwya’ ma’n neud sens. Ma ishe rhywle fel safe space i dynion i gallu siarad.
"Fi’n gweld e’n bwysig achos fi wedi profi colled i iechyd meddwl, fi’n gallu gweld yr ochr yna.
"Felly ar ôl neud y grŵp nesi sylwi bod rhywbeth fel hyn yn rili pwysig i ddynion."
Dienw
Mae gan Facebook elfen sydd yn caniatáu i bobl i bostio yn ddienw.
Credai Bedwyr fod hyn yn gallu bod yn dda er mwyn i bobl rannu barn a theimladau heb gael eu barnu eu hunain.
Ond mae'n ymwybodol hefyd bod elfen negyddol i hyn.
"Ma’r ochr anonymous, ma pobl yn gallu postio i rannu eu teimladau a barn a dim teimlo bod rhaid nhw rhoi enw gyda fe.
"Ma’ lefel os yw pobl yn postio yn anonymous, a bod e’n troi’n negyddol a’n gas. Ond fi’n gweld e'n bwysig bod rhan anonymous i fe, achos mae e fel therapi wedyn, chi ddim yn cael eich barnu.
"Fi’n gobeithio hefyd gweld y ddau ochr. Yr ochr o gwyno a’r ochr hwyl a wrth gwrs cwyno a dim mor serious. Ond hefyd lle i bopeth rili.
"Hoffwn i weld e’n parhau i dyfu, yn sicr."