Y Crëyr Mawr Gwyn wedi bridio yng Nghymru 'am y tro cyntaf erioed'
Mae'r Crëyr Mawr Gwyn wedi bridio yng Nghymru "am y tro cyntaf erioed" a hynny mewn nythod ar Ynys Môn.
Dywedodd RSPB Cymru bod pedwar cyw wedi llwyddo i fagu plu yng ngwarchodfa Cors Ddyga yng Ngaerwen.
Mae'r cywion wedi magu plu mewn dwy nyth wahanol ar yr un safle.
Dyma’r tro cyntaf i achos o’r fath gael ei roi ar gofnod yng Nghymru, meddai'r RSPB.
Mae staff wedi bod yn monitro'r nythod ers dechrau mis Mai, gan ddilyn eu cynnydd "yn llawn cyffro a phryder."
Mae’r Crëyr Mawr Gwyn ar Restr Oren Adar o Bryder Cadwraethol Cymru ac mae RSPB Cymru yn annog ymwelwyr i gadw ddigon pell o'r ardal nythu er mwyn osgoi tarfu ar yr adar.
Dywedodd Ian Hawkins, Rheolwr Safle RSPB Cors Ddyga bod yr adar yn "ychwanegiad hardd" i'r adar amrywiol ar y safle yng Ngaerwen.
“Mae'r tîm wrth eu bodd yn gweld ychwanegiad mor hardd i'n casgliad o adar bridio.
"Rydyn ni’n hynod falch bod yr holl waith i greu gwlypdiroedd ar gyfer Adar y Bwn, ac adar hirgoes sy'n bridio, hefyd wedi darparu lle i fywyd gwyllt arall ymgartrefu ynddo, wrth iddyn nhw addasu i'r newid yn yr hinsawdd”.
'Llwyddiannus'
Mae’r Crëyr Mawr Gwyn yn aderyn mawr gwyn a all edrych yn debyg i’r Crëyr Bach.
Rhai o nodweddion amlwg yr aderyn yw traed duon, pig melyn a thechneg bysgota gwahanol, sy’n debycach i dechneg y Crëyr Glas.
Mae'r adar yn dechrau bridio o ddwy neu dair oed ymlaen.
Mae Julian Hughes, Pennaeth Rhywogaethau RSPB Cymru, yn dweud bod gwaith yng Ngors Ddyga wedi bod "o fudd mawr" i sicrhau amodau bridio da i'r adar.
“Diolch i amddiffyniad cyfreithiol gwell, amodau mwy ffafriol yn ystod y gaeaf yn sgil y newid yn yr hinsawdd, a'r ffaith bod mwy o ysglyfaethau ar gael, mae'r Crëyr Mawr Gwyn wedi lledaenu ledled Ewrop," meddai.
"Mae’r gwaith deinamig o reoli cynefinoedd ar gyfer Adar y Bwn yng Nghors Ddyga – rhywogaeth sydd ar y rhestr goch – wedi bod o fudd mawr i'r Crëyr, ac wedi sicrhau y gallai nythu'n llwyddiannus heb bobl yn tarfu arno.”
Ychwanegodd Dr Mark Eaton, ysgrifennydd y Panel Adar Bridio Prin: "Rydyn ni'n falch iawn o glywed y newyddion cyffrous gan RSPB Cors Ddyga.
"Ers y cofnod bridio cyntaf yn y DU, yng Ngwlad yr Haf yn 2009, mae gwaith monitro blynyddol gan y Panel Adar Bridio Prin yn dangos bod y niferoedd wedi cynyddu'n gyson a bod dros 100 o barau yn bridio yn Lloegr bob blwyddyn erbyn hyn."