Aelod o Kneecap i ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o gefnogi grŵp terfysgol

Mo Chara o fand Kneecap

Bydd aelod o'r band rap Kneecap o Belfast yn ymddangos yn y llys fore dydd Mercher ar gyhuddiad o gefnogi grŵp terfysgol.

Mae Liam Og O hAnnaidh, 27 oed, sydd yn perfformio o dan yr enw Mo Chara wedi ei gyhuddo o ddatgan cefnogaeth i Hezbollah mewn gig ym mis Tachwedd y llynedd.

Mae Hezbollah yn fudiad terfysgol sydd wedi ei wahardd ac mae datgan cefnogaeth iddo'n drosedd ynddi ei hun yn y DU.

Daeth y cyhuddiad wedi ymchwiliad gan yr heddlu i gig y band yn yr O2 Forum yng ngogledd Llundain pan afaelodd Mr Og O hAnnaidh ym maner y mudiad.

Fe wnaeth Liam Og O hAnnaidh ymddangos o flaen ynadon yn Westminster ym mis Mehefin mewn gwrandawiad blaenorol.

Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth ddiamod wedi'r gwrandawiad hwnnw. Nid yw wedi cynnig ple hyd yma.

Mae disgwyl y bydd nifer sylweddol o'i gefnogwyr yn ymddangos ger y llys yn Llundain ddydd Mercher mewn cefnogaeth iddo.

Fe wnaeth Kneecap berfformio yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd ym Mhowys yr wythnos ddiwethaf.

Yn gynharach eleni fe gyhoeddodd y triawd eu bod yn ymestyn eu taith ar draws y DU ac fe fyddant yn perfformio yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.